Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

RHAN 1LL+CY WEITHDREFN AR GYFER HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

1LL+CCaiff hysbysiad cosb benodedig gynnig cyfle i berson dalu cosb o £200 (“y gosb”) o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I2Atod. para. 1 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(l)

2LL+CCaiff hysbysiad cosb benodedig gynnig cyfle hefyd i berson dalu cosb is o £150 (“y gosb ostyngol”) os telir o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y bydd yr hysbysiad cosb wedi ei roi.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I4Atod. para. 2 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(l)

3LL+CCaiff Gweinidogion Cymru ragnodi swm gwahanol ar gyfer y gosb neu’r gosb ostyngol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I6Atod. para. 3 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(l)

4LL+CCaniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu drwy bostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb at y person a ddisgrifir ar yr hysbysiad yn y cyfeiriad a ddisgrifir felly. Bernir y bydd y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi cael ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I8Atod. para. 4 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(l)

5LL+CNid yw paragraff 4 yn atal y gosb rhag cael ei thalu drwy unrhyw ddull arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I10Atod. para. 5 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(l)

6LL+COs yw awdurdod bwyd o’r farn na ddylai hysbysiad cosb benodedig fod wedi ei roi i berson gan swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod bwyd, rhaid i’r awdurdod bwyd roi hysbysiad i’r person hwnnw ei fod yn tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I12Atod. para. 6 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(l)

7LL+COs caiff hysbysiad cosb benodedig ei dynnu’n ôl—

(a)rhaid i awdurdod bwyd ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

(b)ni chaniateir dwyn unrhyw achos na pharhau ag unrhyw achos yn erbyn y person a gafodd yr hysbysiad ar gyfer y drosedd sydd o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I14Atod. para. 7 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(l)

8LL+CMewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n cymryd arni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid awdurdod bwyd, a

(b)sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I16Atod. para. 8 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(l)