xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mesurau diogelu ar gyfer busnesau bwyd

11Yr hawl i ateb

(1)Rhaid i awdurdod bwyd roi cyfle i weithredwr sefydliad busnes bwyd i roi sylwadaethau ar sgôr hylendid bwyd y sefydliad.

(2)Rhaid i unrhyw sylwadaethau o’r fath gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig a chaniateir eu cyflwyno i awdurdod bwyd ar unrhyw adeg tra bo’r sgôr yn ddilys, p’un a yw apêl wedi ei gwneud o dan adran 5 ai peidio.

(3)Rhaid i awdurdod bwyd anfon unrhyw sylwadaethau o’r fath ymlaen at yr ASB a gaiff gyhoeddi’r sylwadaethau ar ei gwefan ynghyd â’r sgôr hylendid bwyd y mae’r sylwadaethau yn ymwneud â hi.

12Ailsgoriadau hylendid bwyd

(1)Caiff gweithredwr sefydliad busnes bwyd ofyn i’r awdurdod bwyd wneud arolygiad ac asesiad pellach o safonau hylendid bwyd y sefydliad er mwyn ystyried a ddylid newid ei sgôr hylendid bwyd (“ailsgoriad”).

(2)Rhaid i gais am ailsgoriad gael ei wneud ar y ffurf a ragnodir.

(3)Rhaid i awdurdod bwyd gydymffurfio â chais o’r fath os yw’r amodau yn is-adran (4) ac, os yw’n gymwys, yr amod yn is-adran (5) wedi eu bodloni.

(4)Yr amodau yn yr is-adran hon yw—

(a)bod unrhyw apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd gyfredol wedi ei phenderfynu;

(b)bod y gweithredwr wedi hysbysu’r awdurdod bwyd am y gwelliannau a wnaed i’r safonau hylendid yn y sefydliad;

(c)bod yr awdurdod bwyd o’r farn ei bod yn rhesymol i ail arolygu ac ailasesu’r sefydliad gyda golwg ar y gwelliannau y dywedwyd eu bod wedi eu gwneud;

(d)bod y sticer sgôr hylendid bwyd cyfredol wedi ei arddangos yn y sefydliad yn unol â gofynion adran 7;

(e)bod y gweithredwr wedi cytuno i sicrhau y caiff awdurdod bwyd fynd yno i wneud arolygiad o’r sefydliad at ddiben yr ailsgoriad.

(5)Yr amod yn yr is-adran hon yw bod gweithredwr y sefydliad busnes bwyd wedi talu costau rhesymol yr ailsgoriad, fel y’u penderfynwyd gan yr awdurdod bwyd yn unol ag adran 13.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys os nad yw’r awdurdod bwyd wedi ceisio cael taliad o’r costau hynny cyn yr arolygiad.

(7)Os yw’r amodau yn is-adran (4) ac, os yw’n gymwys, yr amod yn is-adran (5) wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod bwyd gwblhau’r ailsgoriad heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl cael y cais.

(8)Os yw awdurdod bwyd yn penderfynu na ddylai fod unrhyw newid i’r sgôr hylendid bwyd gyfredol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr y sefydliad busnes bwyd cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad cwblhau’r arolygiad.

(9)Os yw’r awdurdod bwyd yn penderfynu newid y sgôr hylendid bwyd, rhaid iddo, cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr arolygiad, anfon at weithredwr y sefydliad—

(a)hysbysiad ysgrifenedig am ei sgôr hylendid bwyd newydd;

(b)datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y sgôr;

(c)sticer sgôr hylendid bwyd newydd;

(d)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(10)Mae’r gofynion yn adran 6 (cyhoeddi), adran 7 (arddangos sticeri) ac adran 8 (ceisiadau am wybodaeth)) yn gymwys i’r sgôr hylendid bwyd newydd.

(11)Mae adran 5 (yr hawl i apelio) ac adran 11 (yr hawl i ateb) yn gymwys i benderfyniadau’r awdurdod bwyd o dan is-adrannau (8) a (9).

13Talu costau ailsgoriad

(1)Os yw cais am ailsgoriad wedi ei wneud gan weithredwr sefydliad busnes bwyd, rhaid i awdurdod bwyd benderfynu costau rhesymol yr ailsgoriad.

(2)Cyn gwneud yr ailsgoriad, rhaid i’r awdurdod bwyd hysbysu’r gweithredwr am gostau’r ailsgoriad ac am y ffordd y cafodd y costau eu cyfrifo.

(3)Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd dalu costau yr ailsgoriad.

(4)Caiff awdurdod bwyd ei gwneud yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud cyn bod yr ailsgoriad yn cael ei wneud.