xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

GorfodiLL+C

17Pŵer mynediadLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl dangos ei awdurdod ysgrifenedig os caiff ei erchi i wneud hynny, fynd i mewn ar bob adeg resymol i sefydliad busnes bwyd er mwyn—

(a)llunio sgôr hylendid bwyd;

(b)gwneud ailsgoriad;

(c)penderfynu apêl o dan adran 5; neu

(d)gorfodi unrhyw un neu rai o’r gofynion yn adran 7.

(2)Ond yn achos mynediad i unrhyw ran o sefydliad sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd breifat yn unig, rhaid rhoi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn iddo i’r gweithredwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I2A. 17 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

18Rhwystro swyddogion awdurdodedigLL+C

Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sy’n gweithredu i arfer swyddogaethau’r swyddog yn cyflawni trosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I4A. 18 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

19Troseddau gan gyrff corfforaetholLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

(2)Os profir bod y trosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

bydd y cyfarwyddwr, y rheolwr, neu’r ysgrifennydd hwnnw neu’r person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(3)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at unrhyw un o swyddogion cyffelyb y corff;

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I6A. 19 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

20CosbauLL+C

Bydd person sy’n euog o drosedd o dan y Ddeddf hon yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I8A. 20 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

21Cosbau penodedigLL+C

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 9, caiff y swyddog roi hysbysiad i’r person yn cynnig cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

(2)Pan fo hysbysiad wedi ei roi i berson o dan yr adran hon mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir i unrhyw achos gael ei gychwyn am y drosedd cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)ni chaniateir ei gollfarnu o’r drosedd os yw’n talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Mae’r Atodlen (hysbysiadau cosb benodedig) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I10A. 21 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)

22Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedigLL+C

[F1(1)Ni chaiff awdurdod bwyd ddefnyddio ei dderbyniadau cosb benodedig ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir odani.]

(2)Yn yr adran hon ystyr “derbyniadau cosb benodedig” yw’r symiau sy’n cael eu talu i awdurdod bwyd o dan hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddwyd o dan adran 21.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I12A. 22 mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(j)