xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Gorfodi

17Pŵer mynediad

(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl dangos ei awdurdod ysgrifenedig os caiff ei erchi i wneud hynny, fynd i mewn ar bob adeg resymol i sefydliad busnes bwyd er mwyn—

(a)llunio sgôr hylendid bwyd;

(b)gwneud ailsgoriad;

(c)penderfynu apêl o dan adran 5; neu

(d)gorfodi unrhyw un neu rai o’r gofynion yn adran 7.

(2)Ond yn achos mynediad i unrhyw ran o sefydliad sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd breifat yn unig, rhaid rhoi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn iddo i’r gweithredwr.

18Rhwystro swyddogion awdurdodedig

Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sy’n gweithredu i arfer swyddogaethau’r swyddog yn cyflawni trosedd.

19Troseddau gan gyrff corfforaethol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

(2)Os profir bod y trosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

bydd y cyfarwyddwr, y rheolwr, neu’r ysgrifennydd hwnnw neu’r person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(3)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at unrhyw un o swyddogion cyffelyb y corff;

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

20Cosbau

Bydd person sy’n euog o drosedd o dan y Ddeddf hon yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

21Cosbau penodedig

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 9, caiff y swyddog roi hysbysiad i’r person yn cynnig cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

(2)Pan fo hysbysiad wedi ei roi i berson o dan yr adran hon mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir i unrhyw achos gael ei gychwyn am y drosedd cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)ni chaniateir ei gollfarnu o’r drosedd os yw’n talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Mae’r Atodlen (hysbysiadau cosb benodedig) yn cael effaith.

22Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig

(1)Rhaid i awdurdod bwyd dalu ei dderbyniadau cosb benodedig i Weinidogion Cymru.

(2)Yn yr adran hon ystyr “derbyniadau cosb benodedig” yw’r symiau sy’n cael eu talu i awdurdod bwyd o dan hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddwyd o dan adran 21.