Cyflwyniad
1Trosolwg
1
Mae’r Ddeddf hon yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd i Gymru.
2
Mae’r cynllun yn darparu bod awdurdodau bwyd yng Nghymru yn arolygu (adran 2) sefydliadau busnes bwyd yn ardaloedd yr awdurdodau ac yn llunio sgoriau hylendid bwyd y sefydliadau hynny (adran 3).
3
Mae sgôr hylendid bwyd i’w lunio drwy sgorio safonau hylendid bwyd sefydliad yn erbyn meini prawf a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (“ASB”) (adrannau 3 a 4).
4
Caiff sefydliad busnes bwyd apelio yn erbyn ei sgôr hylendid bwyd a rhoi sylwadaethau arni (adrannau 5 a 11).
5
Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r ASB am sgôr hylendid bwyd sefydliad yn ei ardal, a rhaid i’r ASB gyhoeddi’r sgôr (adran 6)
6
Rhaid i sefydliad busnes bwyd hysbysu’r cyhoedd am ei sgôr hylendid bwyd (adrannau 7 ac 8).
7
Mae methu â hysbysu’r cyhoedd yn drosedd, y gellid ei chosbi drwy ddirwy neu gosb benodedig (adran 9, adrannau 19 i 22 a’r Atodlen).
8
O dan amgylchiadau penodol caiff sefydliad busnes bwyd ofyn am ailsgoriad (adran 12).
9
Mae pwerau a chyfrifoldebau awdurdodau bwyd a’r ASB a chyfrifoldebau gweithredwyr sefydliadau busnes bwyd wedi eu nodi yn adrannau 14 i 16.
Arolygiadau a sgoriau hylendid bwyd
2Rhaglen arolygiadau hylendid bwyd
1
Rhaid i awdurdod bwyd lunio, ac adolygu, rhaglen sy’n pennu—
a
a oes rhaid i sefydliad busnes bwyd yn ei ardal gael ei arolygu, a
b
os oes angen arolygiad, mynychder yr arolygiadau.
2
Rhaid i awdurdod bwyd arolygu sefydliadau busnes bwyd yn ei ardal yn unol â’r rhaglen.
3
Wrth lunio ac adolygu ei raglen, rhaid i awdurdod bwyd roi sylw i faterion a bennir gan yr ASB ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.
4
Rhaid i’r materion a bennir gan yr ASB gynnwys asesiad o’r risg i iechyd y cyhoedd—
a
sy’n gysylltiedig â’r math o fwyd a drafodir gan sefydliad,
b
sy’n gysylltiedig â’r dull o drafod y bwyd, ac
c
sy’n codi o record y sefydliad o gydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd.
5
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yr ardal yng Nghymru lle y mae’r sefydliad (neu awdurdod iechyd porthladd o dan yr amgylchiadau a ragnodir gan adran 5(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990);
ystyr “gweithredwr” (“operator”) sefydliad busnes bwyd yw person sy’n ymwneud â rheoli’r sefydliad;
ystyr “sefydliad busnes bwyd” (“food business establishment”) yw unrhyw uned o fusnes sydd wedi ei gofrestru gydag awdurdod bwyd drwy rinwedd Erthygl 6 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 neu sydd wedi ei gymeradwyo o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 (neu sydd wedi ei gofrestru neu ei gymeradwyo o dan ddarpariaethau cyfatebol yn lle hynny ar gyfer cofrestru neu cymeradwyo sefydliadau busnes bwyd) ac—
- a
sy’n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, neu
- b
sy’n cyflenwi bwyd i fusnes arall.
- a
6
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
a
diwygio’r diffiniad o sefydliad busnes bwyd, gan gynnwys ehangu’r categori o sefydliad a fydd yn ddarostyngedig i raglen arolygiadau;
b
diwygio’r diffiniad o awdurdod bwyd (er enghraifft, i gynnwys cyrff eraill).
3Sgoriau hylendid bwyd
1
Pan fo sefydliad busnes bwyd wedi ei arolygu yn unol ag adran 2, rhaid i awdurdod bwyd asesu safonau hylendid bwyd y sefydliad a chynhyrchu sgôr (“sgôr hylendid bwyd”) ar gyfer y sefydliad hwnnw sydd wedi ei sgorio yn erbyn meini prawf a osodir gan yr ASB (y “meini prawf sgorio”).
2
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod sgôr hylendid bwyd i’w seilio ar asesiad o safonau hylendid bwyd sefydliad a wnaed cyn i’r Ddeddf hon gael ei chychwyn.
3
Cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl arolygiad , rhaid i awdurdod bwyd anfon at weithredwr y sefydliad—
a
hysbysiad ysgrifenedig am sgôr hylendid bwyd y sefydliad;
b
datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y sgôr;
c
sticer sgôr hylendid bwyd ar ffurf a ragnodir;
d
unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.
4
Mae sgôr hylendid bwyd yn peidio â bod yn ddilys yn yr achosion a ganlyn—
a
pan fo gweithredwr sefydliad wedi cael hysbysiad am sgôr hylendid bwyd newydd a—
i
bod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ar gyfer apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd newydd wedi dirwyn i ben, neu
ii
os oes apêl wedi ei gwneud, bod yr apêl wedi ei phenderfynu a bod y gweithredwr wedi cael hysbysiad am y canlyniad;
b
pan fo perchenogaeth ar sefydliad wedi ei throsglwyddo neu fod y sefydliad wedi peidio â masnachu.
5
Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi bod categorïau penodol o sefydliad yn cael bod yn esempt rhag cael eu sgorio.
4Y meini prawf sgorio
1
Rhaid i’r meini prawf sgorio gynnwys system i sgorio safonau hylendid sefydliad busnes bwyd.
2
Rhaid i’r system sgorio gynnwys darpariaethau sydd wedi eu seilio ar yr agweddau canlynol ar y sefydliad—
a
ei arferion trin bwyd (gan gynnwys rheoli tymheredd);
b
ei amgylchedd ffisegol (gan gynnwys ei gynllun, ei lendid a’i gyflwr);
c
ei reolaeth;
d
ei weithdrefnau ar gyfer cadw trefn.
Apelau
5Yr hawl i apelio
1
Caiff gweithredwr sefydliad busnes bwyd apelio i’r awdurdod bwyd yn erbyn sgôr hylendid bwyd a roddwyd i’r sefydliad.
2
Caniateir i apêl gael ei gwneud ar y naill neu’r llall o’r seiliau canlynol neu’r ddwy ohonynt—
a
nad yw’r sgôr yn adlewyrchu’n briodol y safonau hylendid bwyd yn y sefydliad adeg yr arolygiad;
b
nad oedd y meini prawf sgorio wedi eu cymhwyso’n gywir wrth lunio’r sgôr hylendid bwyd.
3
Rhaid i apêl gael ei gwneud cyn pen 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cafwyd hysbysiad am y sgôr hylendid bwyd.
4
Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig ar y ffurf a ragnodir.
5
Caiff awdurdod bwyd gynnal arolygiad pellach o’r sefydliad er mwyn ystyried y materion a godwyd mewn apêl.
6
Rhaid i awdurdod bwyd benderfynu’r apêl a hysbysu gweithredwr y sefydliad a’r ASB am ei benderfyniad cyn pen 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cafwyd yr apêl.
7
Rhaid i’r apêl gael ei chynnal gan swyddog awdurdodedig na fu’n ymwneud ag asesu’r sgôr hylendid bwyd sy’n destun apêl.
8
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer apêl o dan yr adran hon gael ei phenderfynu gan berson ac eithrio’r awdurdod bwyd.
9
Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth am y weithdrefn i’w dilyn ar gyfer apelau;
b
i wneud unrhyw ddiwygiadau i’r adran hon o ganlyniad i berson arall yn dod yn gyfrifol dros y penderfyniad y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
10
Os yw awdurdod bwyd yn penderfynu diwygio sgôr hylendid bwyd, rhaid iddo, wrth hysbysu’r sefydliad am ei benderfyniad, anfon at weithredwr y sefydliad—
a
hysbysiad ysgrifenedig am ei sgôr hylendid bwyd diwygiedig;
b
datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y sgôr;
c
sticer sgôr hylendid bwyd newydd;
d
unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.
11
Pan fo awdurdod bwyd yn penderfynu diwygio sgôr hylendid bwyd, wrth iddo hysbysu’r ASB am ei benderfyniad rhaid iddo anfon i’r ASB gopi o’r hysbysiad a’r datganiad y cyfeirir ato yn is-adran (10).
12
Nid oes unrhyw hawl bellach i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed o dan is-adran (6).
Trefniadau cyhoeddi ac arddangos
6Hysbysu am sgoriau hylendid bwyd a’u cyhoeddi
1
Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r ASB am sgôr hylendid bwyd sefydliad busnes bwyd o fewn y cyfnod perthnasol.
2
Wrth hysbysu'r ASB rhaid i awdurdod bwyd ddarparu i’r ASB hefyd unrhyw wybodaeth bellach a ragnodir.
3
Rhaid i’r ASB gyhoeddi’r sgôr hylendid bwyd ac unrhyw wybodaeth arall a ragnodir ar ei gwefan cyn pen 7 o ddiwrnodau ar ôl cael ei hysbysu o dan is-adran (1).
4
Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod perthnasol”—
a
os nad oes apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd, yw 49 o ddiwrnodau o’r dyddiad y bydd gweithredwr sefydliad busnes bwyd yn cael hysbysiad am y sgôr hylendid bwyd;
b
os gwneir apêl, yw 28 o ddiwrnodau o ddyddiad penderfynu’r apêl.
Hysbysu’r cyhoedd am sgoriau hylendid bwyd
7Y gofyniad i arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd
1
Pan fydd gweithredwr sefydliad busnes bwyd wedi cael hysbysiad am sgôr hylendid bwyd y sefydliad, rhaid i’r gweithredwr arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd a ddarparir.
2
Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys—
a
hyd nes y bydd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ar gyfer apêl wedi dirwyn i ben, neu
b
os yw apêl wedi ei gwneud, hyd nes y bydd yr apêl wedi ei phenderfynu a bod y gweithredwr wedi cael hysbysiad am y canlyniad.
3
Rhaid i’r sticer gael ei arddangos yn y man a’r modd a ragnodir.
4
Caiff rheoliadau sy’n rhagnodi’r man a’r modd priodol ar gyfer arddangos sticer wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o sefydliad (gan gynnwys darpariaeth ynghylch arddangos sticer mewn mwy nag un man).
5
Bydd y sticer yn peidio â bod yn ddilys pan fydd sgôr hylendid bwyd y sefydliad yn peidio â bod yn ddilys.
6
Os bydd sticer sefydliad yn peidio â bod yn ddilys, rhaid i’r gweithredwr ei dynnu o’r man lle y mae’n cael ei arddangos a’i ddistrywio (oni chaiff ei gyfarwyddo i beidio â’i ddistrywio gan swyddog awdurdodedig).
8Ceisiadau am wybodaeth am sgoriau hylendid bwyd
1
Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd sicrhau bod pob cyflogai perthnasol yn ymwybodol o sgôr hylendid bwyd y sefydliad.
2
Rhaid i’r gweithredwr ac unrhyw gyflogai perthnasol gydymffurfio â chais a gyfeirir atynt gan berson i gael ei hysbysu ar lafar am sgôr hylendid bwyd y sefydliad.
3
Yn yr adran hon, ystyr “cyflogai perthnasol” yw rhywun sydd—
a
yn cael ei gyflogi yn y sefydliad, a
b
yn debygol, ym marn y gweithredwr, o fod yn wrthrych cais i hysbysu person ar lafar am sgôr hylendid bwyd y sefydliad.
9Troseddau
1
Mae gweithredwr sefydliad busnes bwyd yn cyflawni trosedd os yw, heb esgus rhesymol—
a
yn methu ag arddangos sticer sgôr hylendid bwyd dilys yn y man a’r modd a ragnodir;
b
yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd annilys;
c
yn methu â chadw sticer sgôr hylendid bwyd dilys;
d
yn ildio ei feddiant ar sticer sgôr hylendid bwyd i unrhyw berson heblaw am swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd;
2
Mae gweithredwr sefydliad busnes bwyd hefyd yn euog o drosedd, os, heb esgus rhesymol—
a
gwrthodir cais person i gael ei hysbysu ar lafar am sgôr hylendid bwyd; neu
b
rhoddir gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i berson sy’n gwneud cais o’r fath am sgôr hylendid bwyd sefydliad.
3
Mae sticer sgôr hylendid bwyd yn aros yn eiddo i’r awdurdod bwyd.
4
Mae person yn cyflawni trosedd os yw—
a
yn fwriadol yn newid, yn difwyno neu fel arall yn ymyrryd â sticer sgôr hylendid bwyd, a
b
yn gwneud hynny heblaw er mwyn ei dynnu o’r man lle y mae’n cael ei arddangos, neu er mwyn ei ddistrywio, yn unol ag adran 7(6).
10Hyrwyddo sgoriau hylendid bwyd
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch hyrwyddo sgôr hylendid bwyd sefydliad busnes bwyd—
a
gan weithredwr y sefydliad;
b
gan berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr.
2
Caiff y rheoliadau, er enghraifft, osod dyletswyddau ar weithredwr mewn perthynas â’r canlynol—
a
rhoi cyhoeddusrwydd i’r sgôr yn electronig;
b
rhoi cyhoeddusrwydd i’r sgôr mewn deunydd sy’n hyrwyddo’r bwyd a ddarperir gan y sefydliad.
3
Caiff y rheoliadau hefyd—
a
creu trosedd;
b
gosod cosb (gan gynnwys cosb benodedig);
c
gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi;
d
gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o sefydliad.
4
Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at sgôr hylendid bwyd sefydliad yn cynnwys cyfeiriad at sgôr a ddarperir yn rhinwedd adran 12 (ailsgoriadau hylendid bwyd).
Mesurau diogelu ar gyfer busnesau bwyd
11Yr hawl i ateb
1
Rhaid i awdurdod bwyd roi cyfle i weithredwr sefydliad busnes bwyd i roi sylwadaethau ar sgôr hylendid bwyd y sefydliad.
2
Rhaid i unrhyw sylwadaethau o’r fath gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig a chaniateir eu cyflwyno i awdurdod bwyd ar unrhyw adeg tra bo’r sgôr yn ddilys, p’un a yw apêl wedi ei gwneud o dan adran 5 ai peidio.
3
Rhaid i awdurdod bwyd anfon unrhyw sylwadaethau o’r fath ymlaen at yr ASB a gaiff gyhoeddi’r sylwadaethau ar ei gwefan ynghyd â’r sgôr hylendid bwyd y mae’r sylwadaethau yn ymwneud â hi.
12Ailsgoriadau hylendid bwyd
1
Caiff gweithredwr sefydliad busnes bwyd ofyn i’r awdurdod bwyd wneud arolygiad ac asesiad pellach o safonau hylendid bwyd y sefydliad er mwyn ystyried a ddylid newid ei sgôr hylendid bwyd (“ailsgoriad”).
2
Rhaid i gais am ailsgoriad gael ei wneud ar y ffurf a ragnodir.
3
Rhaid i awdurdod bwyd gydymffurfio â chais o’r fath os yw’r amodau yn is-adran (4) ac, os yw’n gymwys, yr amod yn is-adran (5) wedi eu bodloni.
4
Yr amodau yn yr is-adran hon yw—
a
bod unrhyw apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd gyfredol wedi ei phenderfynu;
b
bod y gweithredwr wedi hysbysu’r awdurdod bwyd am y gwelliannau a wnaed i’r safonau hylendid yn y sefydliad;
c
bod yr awdurdod bwyd o’r farn ei bod yn rhesymol i ail arolygu ac ailasesu’r sefydliad gyda golwg ar y gwelliannau y dywedwyd eu bod wedi eu gwneud;
d
bod y sticer sgôr hylendid bwyd cyfredol wedi ei arddangos yn y sefydliad yn unol â gofynion adran 7;
e
bod y gweithredwr wedi cytuno i sicrhau y caiff awdurdod bwyd fynd yno i wneud arolygiad o’r sefydliad at ddiben yr ailsgoriad.
5
Yr amod yn yr is-adran hon yw bod gweithredwr y sefydliad busnes bwyd wedi talu costau rhesymol yr ailsgoriad, fel y’u penderfynwyd gan yr awdurdod bwyd yn unol ag adran 13.
6
Nid yw is-adran (5) yn gymwys os nad yw’r awdurdod bwyd wedi ceisio cael taliad o’r costau hynny cyn yr arolygiad.
7
Os yw’r amodau yn is-adran (4) ac, os yw’n gymwys, yr amod yn is-adran (5) wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod bwyd gwblhau’r ailsgoriad heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl cael y cais.
8
Os yw awdurdod bwyd yn penderfynu na ddylai fod unrhyw newid i’r sgôr hylendid bwyd gyfredol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr y sefydliad busnes bwyd cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad cwblhau’r arolygiad.
9
Os yw’r awdurdod bwyd yn penderfynu newid y sgôr hylendid bwyd, rhaid iddo, cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr arolygiad, anfon at weithredwr y sefydliad—
a
hysbysiad ysgrifenedig am ei sgôr hylendid bwyd newydd;
b
datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y sgôr;
c
sticer sgôr hylendid bwyd newydd;
d
unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.
10
Mae’r gofynion yn adran 6 (cyhoeddi), adran 7 (arddangos sticeri) ac adran 8 (ceisiadau am wybodaeth)) yn gymwys i’r sgôr hylendid bwyd newydd.
11
Mae adran 5 (yr hawl i apelio) ac adran 11 (yr hawl i ateb) yn gymwys i benderfyniadau’r awdurdod bwyd o dan is-adrannau (8) a (9).
13Talu costau ailsgoriad
1
Os yw cais am ailsgoriad wedi ei wneud gan weithredwr sefydliad busnes bwyd, rhaid i awdurdod bwyd benderfynu costau rhesymol yr ailsgoriad.
2
Cyn gwneud yr ailsgoriad, rhaid i’r awdurdod bwyd hysbysu’r gweithredwr am gostau’r ailsgoriad ac am y ffordd y cafodd y costau eu cyfrifo.
3
Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd dalu costau yr ailsgoriad.
4
Caiff awdurdod bwyd ei gwneud yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud cyn bod yr ailsgoriad yn cael ei wneud.
Pwerau a chyfrifoldebau
14Dyletswyddau yr Asiantaeth Safonau Bwyd
1
Rhaid i’r ASB—
a
wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, roi sylw i’r canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;
b
cyhoeddi’r materion y mae rhaid i awdurdod bwyd roi sylw iddynt wrth lunio ac adolygu rhaglen arolygu o dan adran 2 (pan fo’r materion hynny wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru;
c
cyhoeddi’r meini prawf sgorio a ddefnyddir i roi sgôr hylendid bwyd o dan adran 3;
d
ar ddiwedd cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau pan fydd y cynllun yn cychwyn, a phob cyfnod dilynol o 1 flwyddyn, gynnal adolygiad o weithrediad y system apelau a sefydlir o dan adran 5 yn ystod y cyfnod hwnnw;
e
ar ddiwedd cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau pan fydd y cynllun yn dechrau, a phob cyfnod dilynol o 3 blynedd, adolygu fel arall sut y rhoddwyd ar waith y cynllun sgorio bwyd a sefydlwyd o dan y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw a sut y bu iddo gael ei weithredu;
f
gwneud argymhellion i awdurdodau bwyd i’w cynorthwyo i gydymffurfio â’u cyfrifoldebau o dan y cynllun;
g
hybu’r cynllun i sefydliadau busnes bwyd a defnyddwyr yng Nghymru;
h
darparu sticeri sgôr hylendid bwyd ar y ffurf ragnodedig i awdurdodau bwyd yn ddi-dâl.
2
Heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae adolygiad o dan is-adran (1)(d) yn ymwneud ag ef, rhaid i’r ASB osod adroddiad gerbon Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys—
a
manylion am yr adolygiad a ymgymerwyd ag ef;
b
yr argymhellion dros newid, os oes rhai, i’r system apelau y gwêl eu bod yn briodol a’i resymau dros ddod at y casgliad hwnnw.
3
Heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae adolygiad o dan is-adran (1)(e) yn ymwneud ag ef, rhaid i’r ASB osod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys—
a
manylion am yr adolygiad yr ymgymerwyd ag ef;
b
yr argymhellion dros newid, os oes rhai, i’r cynllun sgorio hylendid bwyd y gwêl eu bod yn briodol a’i resymau dros ddod at y casgliad hwnnw.
4
Rhaid i’r ASB anfon copi o bob adroddiad a lunnir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru.
15Pwerau a chyfrifoldebau eraill awdurdodau bwyd
1
Rhaid i awdurdod bwyd anfon gwybodaeth a ragnodir at weithredwyr sefydliadau busnes bwyd newydd yn ei ardal.
2
Rhaid i’r wybodaeth honno gael ei hanfon at weithredwr o fewn 14 o ddiwrnodau o wneud pa un bynnag o’r pethau canlynol sy’n gymwys—
a
cofrestri sefydliad y gweithredwr gan yr awdurdod fwyd o dan Erthygl 6 o Reoliad (EC) 852/2004 (neu ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer cofrestru sefydliadau busnes bwyd sy’n cymryd lle’r ddarpariaeth honno), neu
b
gweithredwr y sefydliad yn gwneud cais i’r awdurdod bwyd am gymeradwyaeth o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) 853/2004 (neu ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer cymeradwyo sefydliadau o’r fath sy’n cymryd lle’r ddarpariaeth honno).
3
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i awdurdod bwyd roi sylw—
a
i argymhellion a wneir gan yr ASB;
b
i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 23 o’r Ddeddf hon.
4
Rhaid i awdurdod bwyd wneud trefniadau i orfodi’r rhwymedigaethau sy’n cael eu gosod gan y Ddeddf hon ar sefydliadau yn ei ardal.
5
Rhaid i awdurdod bwyd adolygu gweithrediad y cynllun sgorio hylendid bwyd yn ei ardal—
a
o bryd i’w gilydd, gyda golwg ar sicrhau bod y meini prawf sgorio yn cael eu hasesu’n deg ac yn gyson;
b
ar gais yr ASB, er mwyn cynorthwyo’r ASB i werthuso’r cynllun fel sy’n ofynnol gan adran 14(d).
16Cyfrifoldebau eraill gweithredwyr sefydliadau busnes bwyd
Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd—
a
darparu unrhyw wybodaeth y mae angen rhesymol amdani ar awdurdod bwyd i’w alluogi i lunio sgôr hylendid bwyd ar gyfer y sefydliad;
b
fel arall rhoi pob cymorth rhesymol i awdurdod bwyd er mwyn ei alluogi i lunio sgôr hylendid bwyd ac arfer ei swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon.
Gorfodi
17Pŵer mynediad
1
Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl dangos ei awdurdod ysgrifenedig os caiff ei erchi i wneud hynny, fynd i mewn ar bob adeg resymol i sefydliad busnes bwyd er mwyn—
a
llunio sgôr hylendid bwyd;
b
gwneud ailsgoriad;
c
penderfynu apêl o dan adran 5; neu
d
gorfodi unrhyw un neu rai o’r gofynion yn adran 7.
2
Ond yn achos mynediad i unrhyw ran o sefydliad sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd breifat yn unig, rhaid rhoi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn iddo i’r gweithredwr.
18Rhwystro swyddogion awdurdodedig
Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sy’n gweithredu i arfer swyddogaethau’r swyddog yn cyflawni trosedd.
19Troseddau gan gyrff corfforaethol
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.
2
Os profir bod y trosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
a
unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu
b
unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,
bydd y cyfarwyddwr, y rheolwr, neu’r ysgrifennydd hwnnw neu’r person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.
3
Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—
a
at unrhyw un o swyddogion cyffelyb y corff;
b
pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.
20Cosbau
Bydd person sy’n euog o drosedd o dan y Ddeddf hon yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
21Cosbau penodedig
1
Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 9, caiff y swyddog roi hysbysiad i’r person yn cynnig cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.
2
Pan fo hysbysiad wedi ei roi i berson o dan yr adran hon mewn cysylltiad â throsedd—
a
ni chaniateir i unrhyw achos gael ei gychwyn am y drosedd cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a
b
ni chaniateir ei gollfarnu o’r drosedd os yw’n talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
3
Mae’r Atodlen (hysbysiadau cosb benodedig) yn cael effaith.
22Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig
1
Rhaid i awdurdod bwyd dalu ei dderbyniadau cosb benodedig i Weinidogion Cymru.
2
Yn yr adran hon ystyr “derbyniadau cosb benodedig” yw’r symiau sy’n cael eu talu i awdurdod bwyd o dan hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddwyd o dan adran 21.
Amrywiol a chyffredinol
23Canllawiau
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau—
a
i’r ASB;
b
i awdurdod bwyd,
mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.
24Diwygio cyfnodau i gydymffurfio â dyletswyddau
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n pennu cyfnod pryd y mae’n rhaid gwneud rhywbeth drwy roi cyfnod arall yn ei le.
25Dehongli
1
Yn y Ddeddf hon—
ystyr mater “a ragnodir” (“prescribed”) yw mater sydd yn cael ei ragnodi mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
mae i’r ymadrodd “ailsgoriad” (“re-rating”) yr ystyr sydd iddo yn adran 12;
ystyr “anfon” (“send”) yw anfon drwy’r post neu ddanfon â llaw;
mae i’r ymadrodd “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn adran 2;
mae i’r ymadrodd “gweithredwr” (“operator”) (sefydliad busnes bwyd) yr ystyr sydd iddo yn adran 2;
mae i’r ymadrodd “meini prawf sgorio” (“rating criteria”) yr ystyr sydd iddo yn adran 3;
mae i’r ymadrodd “sefydliad busnes bwyd” (“food business establishment”) yr ystyr sydd iddo yn adran 2;
mae i’r ymadrodd “sgôr hylendid bwyd” (“food hygiene rating”) yr ystyr sydd iddo yn adran 3;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan awdurdod bwyd at ddibenion arfer unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod o dan y Ddeddf hon.
2
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at sticer sgôr hylendid bwyd yn cynnwys, pan fo’r cyd-destun yn mynnu hynny, cyfeiriad at fwy nag un sticer.
26Rheoliadau
1
Mae pwerau i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
2
Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, canlyniadol, trosiannol neu atodol y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
3
Yn achos y pŵerau o dan adrannau 2(6), 3(2) a 3(5) mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio’r Ddeddf hon.
4
Ni chaniateir i Reoliadau o dan adrannau 2(6), 3(2), 3(5), 5(8), 6(2), 10, 24 a pharagraff 3 o’r Atodlen gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
5
Mae rheoliadau eraill a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w diddymu’n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
27Cychwyn
1
Mae’r adran hon yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
2
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn i’w wneud gan Weinidogion Cymru.
3
Caiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon—
a
bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys diwrnodau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o sefydliad busnes bwyd);
b
gynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth darfodol, neu ddarpariaeth arbed y gwêl Gweinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu hwylus.
28Enw Byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.