xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CCYFFREDINOL

97Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Rhaid i bwer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon gael ei arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pwer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol ar achos, gwahanol ardaloedd neu ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu’n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol ar achos yn unig;

(c)i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a gaiff eu gwneud o dan y Ddeddf hon neu orchymyn o dan adran 56(2) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu’n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan baragraff 26(1) o Atodlen 2 gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 97 mewn grym ar 26.4.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1000, ergl. 2(c)