RHAN 4CYNLLUNIAU STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG

84Llunio cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg

(1)Cynllun yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg sy’n cynnwys—

(a)cynigion awdurdod lleol ynghylch sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau addysg er mwyn—

(i)gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (“addysg cyfrwng Cymraeg”) yn cael ei darparu yn ei ardal;

(ii)gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal;

(b)targedau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal ac ar gyfer gwella safonau’r addysg honno ac addysgu Cymraeg yn ei ardal;

(c)adroddiad ar y cynnydd a wnaed i fodloni’r targedau a gynhwyswyd yn y cynllun blaenorol neu’r cynllun diwygiedig blaenorol.

(2)Rhaid i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ar gyfer ei ardal.

(3)Rhaid i awdurdod lleol gadw golwg ar ei gynllun, ac os yw’n angenrheidiol, ei ddiwygio.

(4)Wrth lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg neu gynllun diwygiedig, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)ei awdurdodau lleol cyfagos;

(b)pennaeth pob ysgol a gynhelir ganddo;

(c)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo;

(d)pob sefydliad o fewn y sector addysg bellach yn ei ardal;

(e)mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(f)personau rhagnodedig eraill.

(5)Os yw awdurdod lleol yn cynnal asesiad o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â rheoliadau o dan adran 86, rhaid iddo ystyried canlyniadau’r asesiad hwnnw y tro nesaf y bydd yn llunio neu’n diwygio ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg.