Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

75Y cyfrifoldeb dros weithredu
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i gynigion i sefydlu ysgol gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol y cynigir y bydd yn cynnal yr ysgol.

(2)Rhaid i gynigion i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 gael eu gweithredu—

(a)yn achos cynigion sy’n ymwneud ag ysgol gymunedol, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

(b)yn achos cynigion sy’n ymwneud ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir—

(i)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu unrhyw fangre berthnasol, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, a

(ii)fel arall, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol a chorff llywodraethu’r ysgol i’r graddau (os o gwbl) y mae’r cynigion yn darparu bod pob un ohonynt yn gwneud hynny;

(c)yn achos cynigion sy’n ymwneud ag unrhyw ysgol arall, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol a chorff llywodraethu’r ysgol i’r graddau (os o gwbl) y mae’r cynigion yn darparu bod pob un ohonynt yn gwneud hynny.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “mangre berthnasol” yw—

(a)caeau chwarae, neu

(b)adeiladau sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol ond nad ydynt i fod yn adeiladau’r ysgol.

(4)Rhaid i gynigion i derfynu ysgol gael eu gweithredu—

(a)yn achos cynigion sy’n ymwneud ag ysgol gymunedol neu ysgol arbennig gymunedol, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, a

(b)mewn unrhyw achos arall, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol a chorff llywodraethu’r ysgol.

(5)Os bydd ysgol yn newid categori o fod yn ysgol gymunedol ar ôl i gynigion gael eu cyhoeddi o dan adran 72 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, rhaid i’r cynigion (i’r graddau nad ydynt wedi eu gweithredu) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (er gwaethaf is-adrannau (2) a (4)).