RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Cyhoeddi, ymgynghori a gwrthwynebu
48Cyhoeddi ac ymgynghori
1
Rhaid i gynigydd gyhoeddi cynigion a wneir o dan y Bennod hon yn unol â’r Cod.
2
Cyn cyhoeddi cynigion a wneir o dan y Bennod hon, rhaid i gynigydd ymgynghori ynglyn â’i gynigion yn unol â’r Cod.
3
Nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i gynigion i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56).
4
Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod eu cyhoeddi, rhaid i’r cynigydd anfon copïau o’r cynigion cyhoeddedig—
a
at Weinidogion Cymru, a
b
at yr awdurdod lleol (os nad hwnnw yw’r cynigydd) sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.
5
Rhaid i’r cynigydd gyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghori y mae wedi ei wneud yn unol â’r Cod.