Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

39Llunio a chymeradwyo Cod Trefniadaeth Ysgolion

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 38, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch drafft o’r cod (neu’r cod diwygiedig)—

(a)pob awdurdod lleol,

(b)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir,

(c)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac

(d)unrhyw berson arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os yw’r Cynulliad Cenedlaethol, cyn diwedd y cyfnod o 40 o ddiwrnodau, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o’r cod, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi’r cod arfaethedig ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Os na chaiff unrhyw benderfyniad o’r fath ei wneud cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

(5)O ran y cyfnod o 40 o ddiwrnodau—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod y caiff y drafft ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pryd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o god arfaethedig rhag cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god arfaethedig yn cynnwys cod diwygiedig arfaethedig.

(8)Caniateir i’r gofyniad i ymgynghori a osodir gan is-adran (1) gael ei fodloni drwy ymgynghoriad yr ymgymerwyd ag ef cyn i’r Rhan hon ddod i rym er bod y cod a ddyroddir o dan adran 38(1) yn cymryd i ystyriaeth (i unrhyw raddau) unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon.