Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

37Cyfarwyddiadau

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn credu, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddir gan awdurdod ysgol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yn debyg o wella safon yr addysg a ddarperir yn yr ysgol y mae’r datganiad polisi yn ymwneud â hi.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod ysgol i gymryd unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer ei swyddogaethau yn unol â’r canllawiau gwella ysgolion a ddyroddir i’r awdurdod yn unol â’r Bennod hon.

(3)Rhaid i awdurdod ysgol sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gydymffurfio ag ef.

(4)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod ysgol.

(5)O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo gael ei roi’n ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.