xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 04/05/2013

ATODLEN 5LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 3LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 5 (DYLETSWYDDAU AMRYWIOL YSGOLION)

Deddf Addysg 1996 a gorchmynion a wneir odaniLL+C

31(1)Yn adran 512A(6) o Ddeddf Addysg 1996 (trosglwyddo swyddogaethau o dan adran 512 i gyrff llywodraethu), hepgorer o “and such” i’r diwedd.

(2)Yng Ngorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau Ynghylch Ciniawau Ysgol) (Cymru) 1999 (OS 1999/610), hepgorer erthygl 4.

(3)Yng Ngorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau Ynghylch Ciniawau Ysgol) (Cymru) (Rhif 2) 1999 (OS 1999/1779), hepgorer erthygl 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 31 mewn grym ar 4.5.2013, gweler a. 100(3)

Valid from 20/02/2014

Deddf Addysg 2002LL+C

32Yn Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraff 110.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

Deddf Addysg 2005LL+C

33Yn adran 103 o o Ddeddf Addysg 2005 (cyfarfodydd blynyddol rhieni) hepgorer is-adran (2) a (3)(a)(ii).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 33 mewn grym ar 4.5.2013, gweler a. 100(3)

Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006LL+C

34(1)Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 58 (cod ymarfer o ran y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir).

(3)Yn adran 87 (y pŵer i godi tâl am ddarparu prydau bwyd)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer paragraff (b);

(b)yn is-adran (2), hepgorer paragraff (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 5 para. 34(1)(3) mewn grym ar 4.5.2013, gweler a. 100(3)

Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009LL+C

35Yn adran 8(2)(b) o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (sy’n darparu i isadran (4A) newydd gael ei mewnosod yn adran 512 o Ddeddf Addysg 1996), yn lle “7(5)” rhodder “4”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 para. 35 mewn grym ar 4.5.2013, gweler a. 100(3)

Deddf Addysg 2011LL+C

36Yn adran 35 o Ddeddf Addysg 2011 (dyletswyddau mewn perthynas â phrydau bwyd)—

(a)yn is-adran (2) hepgorer paragraff (b);

(b)yn is-adran (3) hepgorer paragraff (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 5 para. 36 mewn grym ar 4.5.2013, gweler a. 100(3)