ATODLEN 5MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 1DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 2 (SAFONAU)

6Deddf Addysg 2002

1

Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 34(7) (trefniadau ar gyfer llywodraethu ysgolion newydd) ar ôl “State)” mewnosoder “and Chapter 1 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in conduct of maintained schools in Wales)”.

3

Yn adran 35(7) (staffio ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir)—

a

hepgorer “section 17 of, or”;

b

ar ôl “2006” mewnosoder “, or section 8 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

4

Yn adran 36(7) (staffio ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig)—

a

hepgorer “section 17 of, or”;

b

ar ôl “2006” mewnosoder “, or section 8 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

5

Yn adran 37(11) (taliadau mewn cysylltiad â diswyddo, etc)—

a

hepgorer “section 17 of, or”;

b

ar ôl “1998 (c 31)” mewnosoder “or section 8 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

6

Hepgorer adrannau 55 i 59 ac adran 63 (pwerau ymyrryd).

7

Yn adran 64 (darpariaethau sy’n atodol i bwerau i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael gwasanaethau cynghori)—

a

yn is-adran (1)—

i

hepgorer “or 63”,

ii

hepgorer “or the National Assembly for Wales”,

iii

hepgorer “or it”,

iv

hepgorer “or the Assembly” (yn y ddau le);

b

yn is-adran (2) hepgorer “or 63”;

c

yn is-adran (7) hepgorer “or 63” ac “or 63(2)”.

8

Hepgorer Atodlenni 5 a 6 (diwygiadau mewn perthynas ag ysgolion sy’n peri pryder a chyrff llywodraethu a ffurfiwyd o aelodau gweithrediaeth interim).

9

Yn Atodlen 21 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 92 i 94 a 103.

10

Gweler hefyd y diwygiad a wnaed gan baragraff 21(11) o’r Atodlen hon i baragraff 5(2) (b)(iii) o Atodlen 1 (sy’n rhannol o ganlyniad i Ran 2 o’r Ddeddf hon).