ATODLEN 5MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 2DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 3 (TREFNIADAETH YSGOL)

I122Deddf Addysg 2005

1

Mae Deddf Addysg 2005 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 28 (dyletswydd i drefnu arolygiadau rheolaidd ar ysgolion penodol)—

a

yn is-adran (2)(b) hepgorer “and foundation”,

b

yn is-adran (4)—

i

ym mharagraff (a) hepgorer “or foundation”;

ii

ym mharagraff (b) yn lle “section 30 of the School Standards and Framework Act 1998 (c31)” rhodder “section 80 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

iii

ym mharagraff (c) hepgorer “or foundation” ac yn lle “section 19 or 32 of that Act” rhodder “section 16(2) or 81(1) of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

iv

ym mharagraff (d) hepgorer “or foundation”.

3

Yn adran 31(1) (dehongli Pennod 3) yn y diffiniad o “maintained school” hepgorer “or foundation”.

4

Yn adran 41(3) (cyrchfan adroddiadau: ysgolion nas cynhelir) hepgorer “or foundation”.

5

Yn adran 42(4) (datganiad i’w lunio gan berchennog ysgol) hepgorer “or foundation”.

6

Yn adran 43 (dehongli Pennod 4) yn y diffiniad o “maintained school” hepgorer “or foundation”.

7

Hepgorer y darpariaethau a ganlyn—

a

adran 46 (chweched dosbarth lle y mae gwelliant arwyddocaol yn ofynnol);

b

adrannau 68, 69, 70, 71 (trefniadaeth ysgol).

8

Ym mharagraff 1 o Atodlen 4 (arolygiadau ysgol yng Nghymru o dan adran 28) yn y diffiniad o “appropriate authority” hepgorer “or foundation”.

9

Hepgorer y darpariaethau a ganlyn—

a

Atodlen 5 (chweched dosbarth lle y mae gwelliant arwyddocaol yn ofynnol);

b

paragraffau 7, 8, 13 a 14 o Atodlen 12 (diwygiadau’n ymwneud â threfniadaeth ysgol).