ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3TROSGLWYDDO TIR

21Newid o ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir i ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir

1

Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

a

pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a

b

o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.

2

Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig, ac i’w freinio ynddo.