ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
16Newid o ysgol sefydledig i ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir
1
Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
a
pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir, a
b
o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.
2
Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.