xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 04/05/2013

Valid from 01/10/2013

ATODLEN 3LL+CGWEITHREDU CYNIGION STATUDOL

RHAN 1LL+CCYFRIFOLDEB DROS WEITHREDU

DehongliLL+C

1Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)ystyr “cynigion” yw cynigion sydd i’w gweithredu o dan adran 55;

(b)mae cyfeiriad at awdurdod lleol mewn perthynas ag ysgol neu ysgol arfaethedig yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol sy’n cynnal neu a fydd yn cynnal yr ysgol honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

Cynigion ynghylch ysgolion cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelirLL+C

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol gymunedol arfaethedig neu ysgol feithrin a gynhelir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41, 42 neu 43 gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

Cynigion ynghylch ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a reolirLL+C

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41(2) neu 43(1)(a) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.

(3)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu gan yr awdurdod a chan y corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(4)Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) (nas gwneir gan awdurdod lleol) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a chan y person a wnaeth y cynigion i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(5)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(6)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

Cynigion ynghylch ysgolion gwirfoddol a gynorthwyirLL+C

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu—

(a)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a

(b)fel arall gan yr awdurdod a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(3)Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) gael eu gweithredu—

(a)os yr awdurdod lleol yw’r cynigydd, gan yr awdurdod lleol, a

(b)os nad yr awdurdod lleol yw’r cynigydd—

(i)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a

(ii)fel arall gan y person a wnaeth y cynigion.

(4)Nid oes dim sydd yn is-baragraff (3)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu mangre berthnasol—

(a)pan fo’r ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir i’w sefydlu yn lle un neu ragor o ysgolion annibynnol, sefydledig neu wirfoddol sy’n rhai presennol ac sydd i’w terfynu ar neu cyn dyddiad gweithredu’r cynigion, a

(b)pan oedd y fangre honno yn rhan o fangre unrhyw un neu rai o’r ysgolion presennol ond na chafodd ei darparu gan yr awdurdod.

(5)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu—

(a)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a

(b)fel arall gan y corff llywodraethu.

(6)Ystyr “mangre berthnasol” yw—

(a)caeau chwarae, neu

(b)adeiladau sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol ond nad ydynt i fod yn adeiladau ysgol.

(7)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 43(1) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.

(8)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

Cynigion ynghylch ysgolion arbennig cymunedolLL+C

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig gymunedol arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 44 gael eu gweithredu gan yr awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

Newid categoriLL+C

6Os bydd ysgol yn newid categori o ysgol gymunedol ar ôl i gynigion cael eu cyhoeddi o dan adran 48 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, rhaid i’r cynigion (i’r graddau na chawsant eu gweithredu) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol (er gwaethaf paragraffau 3 a 4).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)