ATODLEN 3GWEITHREDU CYNIGION STATUDOL

RHAN 1CYFRIFOLDEB DROS WEITHREDU

I12Cynigion ynghylch ysgolion cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol gymunedol arfaethedig neu ysgol feithrin a gynhelir sy’n arfaethedig.

2

Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41, 42 neu 43 gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol.