xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(Cyflwynwyd gan adran 55)

ATODLEN 3GWEITHREDU CYNIGION STATUDOL

RHAN 1CYFRIFOLDEB DROS WEITHREDU

Dehongli

1Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)ystyr “cynigion” yw cynigion sydd i’w gweithredu o dan adran 55;

(b)mae cyfeiriad at awdurdod lleol mewn perthynas ag ysgol neu ysgol arfaethedig yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol sy’n cynnal neu a fydd yn cynnal yr ysgol honno.

Cynigion ynghylch ysgolion cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol gymunedol arfaethedig neu ysgol feithrin a gynhelir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41, 42 neu 43 gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol.

Cynigion ynghylch ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a reolir

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41(2) neu 43(1)(a) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.

(3)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu gan yr awdurdod a chan y corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(4)Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) (nas gwneir gan awdurdod lleol) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a chan y person a wnaeth y cynigion i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(5)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(6)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.

Cynigion ynghylch ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu—

(a)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a

(b)fel arall gan yr awdurdod a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(3)Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) gael eu gweithredu—

(a)os yr awdurdod lleol yw’r cynigydd, gan yr awdurdod lleol, a

(b)os nad yr awdurdod lleol yw’r cynigydd—

(i)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a

(ii)fel arall gan y person a wnaeth y cynigion.

(4)Nid oes dim sydd yn is-baragraff (3)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu mangre berthnasol—

(a)pan fo’r ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir i’w sefydlu yn lle un neu ragor o ysgolion annibynnol, sefydledig neu wirfoddol sy’n rhai presennol ac sydd i’w terfynu ar neu cyn dyddiad gweithredu’r cynigion, a

(b)pan oedd y fangre honno yn rhan o fangre unrhyw un neu rai o’r ysgolion presennol ond na chafodd ei darparu gan yr awdurdod.

(5)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu—

(a)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a

(b)fel arall gan y corff llywodraethu.

(6)Ystyr “mangre berthnasol” yw—

(a)caeau chwarae, neu

(b)adeiladau sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol ond nad ydynt i fod yn adeiladau ysgol.

(7)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 43(1) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.

(8)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.

Cynigion ynghylch ysgolion arbennig cymunedol

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig gymunedol arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 44 gael eu gweithredu gan yr awdurdod.

Newid categori

6Os bydd ysgol yn newid categori o ysgol gymunedol ar ôl i gynigion cael eu cyhoeddi o dan adran 48 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, rhaid i’r cynigion (i’r graddau na chawsant eu gweithredu) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol (er gwaethaf paragraffau 3 a 4).

RHAN 2DARPARU MANGREOEDD A CHYMORTH ARALL

Darparu safle ac adeiladau i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 3(2), (3), (4) neu (5) ddarparu safle i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i’r awdurdod drosglwyddo ei fuddiant yn y safle ac yn unrhyw adeiladau sydd ar y safle sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol—

(a)i ymddiriedolwyr yr ysgol, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu

(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol neu (yn absenoldeb corff o’r fath) i’r corff llywodraethu, i’w ddal gan y corff hwnnw at y dibenion perthnasol.

(3)Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

(5)Mae is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)pan fo trosglwyddiad yn cael ei wneud o dan y paragraff hwn, a

(b)pan fo’r trosglwyddiad yn cael ei wneud i bersonau (“y trosglwyddeion”) y mae ganddynt unrhyw swm, neu sydd â hawl ganddynt iddo neu y gellid bod ganddynt yr hawl iddo, sef swm sy’n cynrychioli’r enillion ar werthiant mangre arall a gafodd ei defnyddio at ddibenion yr ysgol.

(6)Rhaid i’r trosglwyddeion hysbysu’r awdurdod lleol bod is-baragraff (5)(b) yn gymwys iddynt a rhaid iddynt hwy neu eu holynwyr dalu i’r awdurdod lleol gymaint o’r swm hwnnw, gan roi sylw i werth y buddiant a drosglwyddwyd, ag y benderfynir ei fod yn gyfiawn, naill ai drwy gytundeb rhyngddynt hwy a’r awdurdod neu, yn niffyg cytundeb, gan Weinidogion Cymru.

(7)Yn is-baragraff (5)(b) mae’r cyfeiriad at enillion ar werthiant mangre arall yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol—

(a)cydnabyddiaeth am greu neu am waredu unrhyw fath o fuddiant mewn mangre arall, gan gynnwys rhent, a

(b)unrhyw log sydd wedi cronni mewn perthynas â chydnabyddiaeth o’r fath.

(8)Mae unrhyw swm a delir o dan is-baragraff (6) i’w drin at ddibenion adran 14 o Ddeddf Safleoedd Ysgolion 1841 (sy’n ymwneud â gwerthu neu gyfnewid tir sy’n cael ei ddal ar ymddiried at ddibenion ysgol) fel swm a ddefnyddir at brynu safle i’r ysgol.

(9)Caniateir i benderfyniad gael ei wneud o dan is-baragraff (6) mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaeth sydd wedi codi o dan adran 1 o Ddeddf Dychweliad Safleoedd 1987 (hawl dychweliad yn cael ei disodli gan ymddiried i werthu) —

(a)os gwneir y penderfyniad gan Weinidogion Cymru (a dim ond bryd hynny), a

(b)maent wedi eu bodloni (a dim ond bryd hynny) bod camau wedi eu cymryd i amddiffyn buddiannau’r buddiolwyr o dan yr ymddiriedolaeth.

(10)Mae is-baragraff (6) yn gymwys at ddibenion digolledu’r awdurdod a hysbysir o dan yr is-baragraff hwnnw mewn perthynas yn unig â’r rhan honno o’r swm a grybwyllir yn isbaragraff (5)(b) (os oes un) sy’n weddill ar ôl cymhwyso paragraffau 1 i 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (gwaredu tir - ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig sefydledig) i’r swm hwnnw.

(11)Yn y paragraff hwn—

Grantiau mewn cysylltiad â gwariant penodol ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir boed hi’n un bresennol neu’n un arfaethedig

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn rhinwedd paragraff 4(5) i weithredu cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i’r ysgol, neu

(b)pan fo’n ofynnol i berson yn rhinwedd paragraff 4(3)(b) i weithredu cynigion i sefydlu ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir.

(2)Mae paragraff 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (grantiau i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir mewn cysylltiad â gwariant ar fangre neu gyfarpar)—

(a)yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), a

(b)yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol newydd a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag ysgol bresennol sy’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(3)Wrth gymhwyso’r paragraff hwnnw mewn perthynas ag ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir—

(a)mae cyfeiriadau at y corff llywodraethu, mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn i’r corff llywodraethu gael ei gyfansoddi, yn gyfeiriadau at y person a wnaeth y cynigion o dan adran 41(2), a

(b)pan osodir gofynion mewn perthynas a grant a delir yn rhinwedd y paragraff hwn i’r person a wnaeth y cynigion, rhaid i gorff llywodraethu, pan gyfansoddir ef, yn ogystal â’r person hwnnw, gydymffurfio â’r gofynion.

Cymorth mewn cysylltiad â chynnal a chadw a rhwymedigaethau eraill mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir

9Caiff awdurdod lleol roi i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir y cymorth y gwêl yr awdurdod yn dda i’w roi pan fo’r corff llywodraethu’n cyflawni unrhyw rwymedigaeth sy’n codi yn rhinwedd paragraff 4(5) mewn perthynas â chynigion a wnaed ganddo o dan adran 42(2).

Cymorth mewn cysylltiad ag ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir

10Caiff awdurdod lleol roi i’r personau y mae’n ofynnol iddynt yn rhinwedd paragraff 4(3) (b) i weithredu cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a gynorthwyir y cymorth y gwêl yn dda i’w roi pan fo’r personau hynny’n cyflawni unrhyw rwymedigaeth sy’n codi yn rhinwedd y paragraff hwnnw.

Dyletswydd i drosglwyddo buddiant mewn mangre a ddarperir o dan baragraff 9 neu 10

11(1)Pan fo cymorth o dan baragraff 9 neu 10 yn golygu darparu unrhyw fangre i’w defnyddio at ddibenion ysgol, rhaid i’r awdurdod leol drosglwyddo ei fuddiant yn y fangre—

(a)i ymddiriedolwyr yr ysgol i’w ddal ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu

(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol, i’w ddal gan y corff hwnnw at ddibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto.

(2)Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

RHAN 3GORCHMYNION ESEMPTIO TROSIANNOL AT DDIBENION DEDDF CYDRADDOLDEB 2010

Ysgolion un rhyw

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion i wneud newid rheoleiddiedig a ddisgrifir ym mharagraff 3(1)(a) o Atodlen 2 (ysgol i beidio â bod yn un sy’n derbyn disgyblion o un rhyw yn unig).

(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan wneir cynigion o’r fath o dan adran 42 neu 44 ac, yn unol ag adran 48(4), pan fo’r cynigydd yn anfon copi o’r cynigion wedi eu cyhoeddi at Weinidogion Cymru.

(3)Mae anfon y cynigion wedi eu cyhoeddi i Weinidogion Cymru i’w drin fel cais gan y cynigydd am orchymyn esemptio trosiannol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a chaniateir i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o’r fath yn unol â hynny.

(4)Yn y paragraff hwn—