xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 18)

ATODLEN 1CYRFF LLYWODRAETHU SYDD WEDI EU FFURFIO O AELODAU GWEITHREDIAETH INTERIM

Dehongli’r Atodlen

1(1)Yn yr Atodlen hon—

(2)Yn yr Atodlen hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

Y corff llywodraethu i gael ei ffurfio o aelodau a benodir gan awdurdod priodol

2(1)Mae corff llywodraethu’r ysgol i gael ei ffurfio o aelodau a benodir gan yr awdurdod priodol, yn lle cael ei gyfansoddi’n unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd adran 19 o Ddeddf Addysg 2002.

(2)Yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon—

(a)cyfeirir at y corff llywodraethu fel y’i cyfansoddir yn unol â’r Atodlen hon fel “y bwrdd gweithrediaeth interim”, a

(b)cyfeirir at aelodau’r corff llywodraethu fel y’u cyfansoddir felly fel “aelodau gweithrediaeth interim”.

Effaith hysbysiad o dan adran 7 neu 14

3(1)Ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14, mae’r llywodraethwyr presennol yn gadael eu swydd.

(2)Nid yw is-paragraff (1) yn atal llywodraethwr presennol rhag cael ei benodi’n aelod gweithrediaeth interim.

(3)Yn ystod y cyfnod interim, mae unrhyw gyfeiriad mewn unrhyw ddarpariaeth sydd yn y Deddfau Addysg, neu sydd wedi ei gwneud oddi tanynt, at lywodraethwr neu lywodraethwr sefydledig ysgol yn cael effaith, o ran yr ysgol, fel cyfeiriad at aelod gweithrediaeth interim.

(4)Yn ystod y cyfnod interim, mae adran 83 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (addasu’r darpariaethau sy’n gwneud llywodraethwyr ysgol sefydledig neu wirfoddol yn ymddiriedolwyr ex officio) yn cael effaith o ran yr ysgol drwy roi yn lle paragraffau (a) i (c) gyfeiriad at yr aelodau gweithrediaeth interim.

Nifer yr aelodau gweithrediaeth interim

4(1)Rhaid i nifer yr aelodau gweithrediaeth interim beidio â bod yn llai na dau.

(2)Rhaid i benodiad cychwynnol aelodau gweithrediaeth interim gael ei wneud yn y fath fodd ag i ddod yn weithredol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14.

(3)Caiff yr awdurdod priodol benodi aelodau gweithrediaeth interim pellach ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod interim.

Telerau penodi aelodau gweithrediaeth interim

5(1)Rhaid i bob penodiad aelod gweithrediaeth interim gael ei wneud drwy offeryn ysgrifenedig yn gosod telerau’r penodiad.

(2)O ran aelod gweithrediaeth interim—

(a)mae’n dal swydd yn unol â thelerau’r penodiad ac yn ddarostyngedig i baragraff 16, a

(b)caniateir iddo gael ei symud o’i swydd gan yr awdurdod priodol am anghymhwyster neu gamymddygiad.

(3)Caiff telerau penodi aelod gweithrediaeth interim ddarparu i’r penodiad fod yn derfynadwy gan yr awdurdod priodol drwy hysbysiad.

Dyletswydd yr awdurdod priodol i hysbysu personau eraill

6(1)Rhaid i’r awdurdod priodol roi copi o’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ac o bob offeryn penodi aelod gweithrediaeth interim—

(a)i bob aelod gweithrediaeth interim,

(b)i bob llywodraethwr presennol yr ysgol,

(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, i Weinidogion Cymru,

(d)os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, i’r awdurdod lleol, ac

(e)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)i’r person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, i’r corff crefyddol priodol.

(2)Nid yw methiant â chydymffurfio ag is-baragraff (1) yn annilysu’r hysbysiad na’r penodiad.

Pŵer i bennu hyd cyfnod interim

7Caiff yr awdurdod priodol bennu hyd y cyfnod interim yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14.

Cadeirydd

8Caiff yr awdurdod priodol enwebu un o’r aelodau gweithrediaeth interim i fod yn gadeirydd y bwrdd gweithrediaeth interim.

Cydnabyddiaeth a lwfansau

9Caiff yr awdurdod priodol dalu i unrhyw aelod gweithrediaeth interim unrhyw gydnabyddiaeth a lwfansau y bydd yr awdurdod priodol yn eu penderfynu, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan baragraff 13(2).

Dyletswydd y bwrdd gweithrediaeth interim

10(1)Yn ystod y cyfnod interim, rhaid i’r bwrdd gweithrediaeth interim redeg yr ysgol yn y fath fodd ag i sicrhau, cyhyd â’i bod yn ymarferol gwneud hynny, bod sail gadarn yn cael ei darparu ar gyfer gwella yn y dyfodol y modd y mae’r ysgol yn cael ei rhedeg.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar ddyletswyddau eraill y bwrdd gweithrediaeth interim fel corff llywodraethu.

Trafodion y bwrdd gweithrediaeth interim

11(1)Caiff y bwrdd gweithrediaeth interim benderfynu ei weithdrefn ei hun.

(2)Caiff y bwrdd gweithrediaeth interim wneud unrhyw drefniadau y gwêl yn dda i unrhyw berson arall gyflawni ei swyddogaethau.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan baragraff 13(2).

Effaith ar atal dros dro gyllideb ddirprwyedig

12(1)Os nad oes gan yr ysgol, yn union cyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14, gyllideb ddirprwyedig, mae ataliad dros dro ar hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig wedi ei ddirymu yn rhinwedd yr is-baragraff hwn o’r dyddiad hwnnw.

(2)Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (atal cyllideb ddirprwyedig dros dro am gamreoli etc) wedi ei roi i’r corff llywodraethu cyn y dyddiad a bennwyd mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ond nad yw wedi dod yn weithredol eto, mae effaith yr hysbysiad yn peidio ar y dyddiad hwnnw.

(3)Yn ystod y cyfnod interim, ni chaiff yr awdurdod lleol arfer y pŵer a roddir gan adran 8 (pŵer i atal dros dro hawl i gael cyllideb ddirprwyedig).

(4)Mae is-baragraff (1) i’w ddehongli’n unol ag adran 49(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Eithrio darpariaethau statudol penodol

13(1)Nid yw rheoliadau a wneir o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf Addysg 2002 (cyrff llywodraethu) yn gymwys mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim.

(2)Ond caniateir i reoliadau a wneir o dan adran 19(3)(f), (g), (i), (j), (k) neu (l) o Ddeddf Addysg 2002 (ac eithrio rheoliadau o dan adran 19(3)(l) sy’n ymwneud â chyfansoddiad cyrff llywodraethu) gael eu cymhwyso mewn perthynas â’r bwrdd (gydag addasiadau neu hebddynt) drwy reoliadau.

(3)Nid yw offeryn llywodraethu’r ysgol yn cael effaith mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim i’r graddau y mae’n ymwneud â chyfansoddiad y corff llywodraethu.

(4)Yn ystod y cyfnod interim—

(a)ni chaiff yr awdurdod lleol arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 6 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol), a

(b)ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 13 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol).

Cau’r ysgol

14(1)Ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod interim, caiff y bwrdd gweithrediaeth interim, os gwêl yn dda, wneud adroddiad i’r awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru yn argymell y dylai’r ysgol gael ei therfynu, a chan ddatgan y rhesymau dros yr argymhelliad hwnnw.

(2)Ni chaiff y bwrdd gweithrediaeth interim—

(a)cyhoeddi o dan adran 43 gynigion i derfynu’r ysgol, na

(b)cyflwyno hysbysiad o dan adran 80.

(3)Bydd is-baragraff (4) yn gymwys os, yn ystod y cyfnod interim—

(a)bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81 mewn perthynas â’r ysgol, neu

(b)bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu terfynu’r ysgol.

(4)Mae’r cyfnod interim i barhau tan y dyddiad terfynu, hyd yn oed pan fyddai’n dod i ben fel arall cyn y dyddiad hwnnw.

(5)Yn y paragraff hwn ystyr “y dyddiad terfynu” yw un o’r canlynol (yn ôl fel y digwydd)—

(a)y dyddiad y bydd cynigion i derfynu’r ysgol yn cael eu gweithredu arno o dan Ran 1 o Atodlen 3;

(b)y dyddiad y caiff yr ysgol ei therfynu arno o dan adran 80;

(c)y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81(1).

Hysbysu bod y corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal wedi ailddechrau llywodraethu

15(1)Bydd yr is-baragraff canlynol yn gymwys—

(a)os nad yw’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, a

(b)os nad yw paragraff 14(4) yn gymwys.

(2)Caiff yr awdurdod priodol roi hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (3) yn pennu dyddiad pan fydd y corff llywodraethu’n dod yn gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal.

(3)Y personau hynny yw’r canlynol—

(a)pob aelod gweithrediaeth interim,

(b)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, Gweinidogion Cymru,

(c)os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, yr awdurdod lleol, a

(d)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

Yr amser pan fydd aelodau gweithrediaeth interim yn peidio â dal eu swydd

16(1)Mae aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd—

(a)mewn achos lle y mae is-baragraff (4) o baragraff 14 yn gymwys, ar y dyddiad terfynu o fewn ystyr y paragraff hwnnw,

(b)mewn achos lle nad yw’r is-baragraff hwnnw yn gymwys a bod yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, ar ddiwedd y cyfnod penodedig, ac

(c)mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad a bennir o dan baragraff 15(2).

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn atal terfynu penodiad aelod gweithrediaeth interim ynghynt o dan baragraff 5(2)(b) neu’n unol â thelerau ei benodiad.

Sefydlu corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal

17(1)Pan fo aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd ar y dyddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 16(1)(b) neu (c), rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi’r corff llywodraethu ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud, drwy reoliadau, ddarpariaeth ynglyn â’r trosi o fwrdd gweithrediaeth interim i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal, a chânt, mewn cysylltiad â’r trosi hwnnw—

(a)addasu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan unrhyw un neu rai o adrannau 19, 20 a 23 o Ddeddf Addysg 2002 neu gan Atodlen 1 i’r Ddeddf honno,

(b)cymhwyso unrhyw ddarpariaeth o’r fath gydag addasiadau neu hebddynt, ac

(c)gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth o’r fath neu’n gyffelyb iddi.

(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-baragraff (2) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth sy’n galluogi llywodraethwyr i gael eu hethol neu eu penodi, ac i arfer swyddogaethau, cyn diwedd y cyfnod interim.