xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Y seiliau dros ymyrryd

2Y seiliau dros ymyrryd

At ddibenion y Bennod hon, mae’r seiliau dros ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir fel a ganlyn—

Ymyrraeth gan awdurdod lleol

3Hysbysiad rhybuddio

(1)Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas ag un o’i ysgolion a gynhelir, caiff yr awdurdod roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu’r ysgol.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y mae’r awdurdod wedi ei fodloni bod y seiliau’n bodoli;

(c)y camau y mae’r awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan y corff llywodraethu (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y mae’r awdurdod â’i fryd ar eu cymryd os bydd y corff llywodraethu’n methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddo yr un pryd roi copi o’r hysbysiad rhybuddio i—

(a)y pennaeth;

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(c)Gweinidogion Cymru.

4Pŵer i ymyrryd

(1)Mae gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir o dan y Bennod hon os yw is-adran (2), (3) neu (4) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 3 i gorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu â sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad yr awdurdod o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol a bod ganddo reswm dros gredu bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw sail 7 (ysgol y mae arni angen gwelliant sylweddol) neu sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig) yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

(b)os yw cyfnod heb fod yn llai na 10 niwrnod wedi mynd heibio er y dyddiad y rhoes y Prif Arolygydd hysbysiad i’r awdurdod lleol o dan adran 37(2) o Ddeddf Addysg 2005, yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, mewn perthynas ag ysgol benodol, bod is-adran (4)(b) yn cael effaith fel petai’r cyfeiriad at 10 niwrnod yn cyfeirio at gyfnod byrrach a bennir yn y penderfyniad.

(6)Pan fo gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd, rhaid iddo gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

(7)Os yw’r awdurdod yn dod i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth ei fodd, neu na fyddai arfer ei bwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddo ysgrifennu at y corff llywodraethu i’w hysbysu am ei gasgliad.

(8)Os yw awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (7), rhaid iddo anfon copi yr un pryd—

(a)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

(i)at y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, at y corff crefyddol priodol, a

(b)at Weinidogion Cymru.

(9)Mae pŵer awdurdod lleol i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd un o’r camau canlynol yn digwydd—

(a)bod yr awdurdod yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (7);

(b)bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oes effaith mwyach i’r pŵer i ymyrryd a’u bod yn ysgrifennu at yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’w hysbysu am eu penderfyniad;

(c)bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu’r ysgol o dan adran 10.

(10)Nid yw awdurdod lleol sydd â phwer i ymyrryd wedi ei gyfyngu i gymryd y camau y dywedodd ei fod â’i fryd ar eu cymryd mewn hysbysiad rhybuddio.

5Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydlafurio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol, gyda golwg ar wella perfformiad yr ysgol, gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—

(a)ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig (a gaiff fod yn gorff llywodraethu ysgol arall) i ddarparu i’r corff llywodraethu wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur;

(b)arfer y pwerau o dan adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (pwerau cydlafurio) a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 6 o’r Mesur hwnnw.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu’r ysgol, a

(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

6Pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwêl yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).

(3)Caiff yr awdurdod lleol enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.

(4)Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan yr awdurdod lleol.

(6)Bydd llywodraethwr a enwebir gan yr awdurdod lleol i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan yr awdurdod lleol.

(7)Caiff yr awdurdod lleol dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.

7Pŵer awdurdod lleol i gyfansoddi corff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol ysgrifennu at gorff llywodraethu’r ysgol i’w hysbysu bod y corff llywodraethu, o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, i’w gyfansoddi’n unol ag Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim).

(3)Cyn rhoi hysbysiad rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ymgynghori â chorff llywodraethu’r ysgol,

(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ymgynghori â’r canlynol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol, ac

(c)sicrhau cydsyniad Gweinidogion Cymru.

8Pŵer awdurdod lleol i atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir, a

(b)os oes gan yr ysgol gyllideb ddirprwyedig o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)Caiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig drwy roi i’r corff llywodraethu hysbysiad am yr ataliad dros dro.

(3)Mae’r ataliad dros dro ar yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig yn dod yn weithredol o’r adeg y bydd y corff llywodraethu’n cael yr hysbysiad.

(4)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad yn atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad i’r pennaeth yr un pryd.

(5)Mae ataliad dros dro sy’n cael ei osod o dan yr adran hon yn cael effaith at ddibenion Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ariannu ysgolion a gynhelir) fel petai wedi ei wneud o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (atal dros dro ddirprwyiad ariannol).

9Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan yr awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Os yw’r awdurdod lleol yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, caiff—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

10Hysbysiad rhybuddio

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir—

(a)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

(b)os yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol naill ai—

(i)heb roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu o dan adran 3 ar un neu fwy o’r seiliau hynny, neu

(ii)wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, ond yn nhermau sy’n annigonol ym marn Gweinidogion Cymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)y camau y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan y corff llywodraethu (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd y corff llywodraethu yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddynt yr un pryd ag y byddant yn rhoi’r hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu roi copi o’r hysbysiad rhybuddio i—

(a)yr awdurdod lleol;

(b)y pennaeth;

(c)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

11Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

(1)Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir o dan y Bennod hon os yw is-adran (2), (3), (4) neu (5) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 3 i gorff llywodraethu’r ysgol,

(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio, ac

(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r awdurdod lleol wedi cymryd, ac nad yw’n debyg o gymryd, camau digonol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 10 i gorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol a bod ganddynt reswm dros gredu bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw sail 7 (ysgol y mae arni angen gwelliant sylweddol) neu sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig) yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

(b)os yw cyfnod heb fod yn llai na 10 niwrnod wedi mynd heibio er y dyddiad y rhoes y Prif Arolygydd hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 37(2) o Ddeddf Addysg 2005, yn ddarostyngedig i is-adran (6).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, mewn perthynas ag ysgol benodol, bod is-adran (5)(b) yn cael effaith fel petai’r cyfeiriad at 10 niwrnod yn cyfeirio at gyfnod byrrach a bennir yn y penderfyniad.

(7)Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

(8)Os yw Gweinidogion Cymru’n credu bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at y corff llywodraethu a’r awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.

(9)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8) mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, rhaid iddynt anfon copi yr un pryd at—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(10)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8).

(11)Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.

12Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydlafurio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, gyda golwg ar wella perfformiad yr ysgol, gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—

(a)ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig (a gaiff fod yn gorff llywodraethu ysgol arall) i ddarparu i’r corff llywodraethu wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur;

(b)arfer y pwerau o dan adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (pwerau cydlafurio) a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 6 o’r Mesur hwnnw.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu’r ysgol, a

(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

13Pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwelant yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.

(4)Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(6)Bydd llywodraethwr a enwebir gan Weinidogion Cymru i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.

(8)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas ag unrhyw ysgol—

(a)ni chaiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith 1998, a

(b)os yw’r awdurdod lleol eisoes wedi arfer y pŵer hwnnw neu ei bwer o dan adran 8, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu’r ataliad dros dro.

(9)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pwerau o dan yr adran hon mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, nid oes dim mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 i’w ddarllen fel petai’n awdurdodi penodi llywodraethwyr sefydledig er mwyn eu gwneud yn fwy niferus na’r llywodraethwyr eraill fel y bydd eu nifer hwy wedi ei gynyddu gan y rhai a gaiff eu penodi gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(10)O ran dirymu ataliad dros dro o dan is-adran (8)(b)—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol gael ei hysbysu’n ysgrifenedig amdano, a

(b)daw’n weithredol o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.

14Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfansoddi corff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ysgrifennu at gorff llywodraethu’r ysgol i’w hysbysu bod y corff llywodraethu, o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, i’w gyfansoddi’n unol ag Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim).

(3)Cyn rhoi hysbysiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,

(b)corff llywodraethu’r ysgol, ac

(c)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)Nid yw Gweinidogion Cymru yn gorfod ymgynghori â’r personau a grybwyllwyd yn isadran (3)(b) ac (c) os yw’r awdurdod lleol wedi ymgynghori â hwy am gyfansoddiad corff llywodraethu o dan adran 7 ar sail pŵer i ymyrryd y daethpwyd ag ef i ben drwy effaith adran 4(9)(b) neu (c).

15Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgolion yn cael eu ffedereiddio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir (“yr ysgol sy’n peri pryder”).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw un o’r personau canlynol i ddarparu ar gyfer un neu fwy o’r trefniadau a nodir yn is-adran (3)—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(c)corff llywodraethu ffederasiwn.

(3)Dyma’r trefniadau—

(a)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(b)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes;

(c)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(d)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(e)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes;

(f)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(g)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, bod yr ysgol yn ymadael â’r ffederasiwn hwnnw.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol,

(b)y cyrff llywodraethu sydd o dan sylw, ac

(c)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Yn yr adran hon mae i “ffederasiwn” yr ystyr a roddir gan adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011.

16Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir ar dir sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r ysgol gael ei therfynu ar ddyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,

(b)corff llywodraethu’r ysgol,

(c)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol, ac

(d)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Wrth roi cyfarwyddyd i derfynu’r ysgol, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig hefyd am y cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r ysgol a’i phennaeth.

(5)Pan fo cyfarwyddyd yn cael ei roi i’r awdurdod lleol o dan is-adran (2), rhaid iddo derfynu’r ysgol o dan sylw ar y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd; ac nid oes dim yn Rhan 3 sy’n gymwys i derfynu’r ysgol o dan yr adran hon.

(6)Yn yr adran hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn cyfeirio at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

17Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, cânt—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Darpariaethau atodol

18Cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim

Mae Atodlen 1 (penodi aelodau o fyrddau gweithrediaeth interim, swyddogaethau’r byrddau, eu gweithdrefnau a materion cysylltiedig) yn cael effaith.

19Cyfarwyddiadau

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu bennaeth sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan y Bennod hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn y corff llywodraethu neu’r pennaeth.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Bennod hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais gan, neu ar ran, y person a roes y cyfarwyddyd.

20Canllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

PENNOD 2YMYRRYD MEWN AWDURDODAU LLEOL

Y seiliau dros ymyrryd

21Y seiliau dros ymyrryd

At ddibenion y Bennod hon, mae’r seiliau dros ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau addysg fel a ganlyn—

Hysbysiad rhybuddio

22Hysbysiad rhybuddio

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)y camau y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan yr awdurdod lleol (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau gofynnol.

Pwerau ymyrryd

23Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

(1)Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd o dan y Bennod hon â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

(b)os yw’r awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—

(a)bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon, neu

(b)bod yr awdurdod lleol yn annhebyg o allu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.

(4)Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn dod i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at yr awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.

(6)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (5).

(7)Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.

24Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, i ddarparu i’r awdurdod neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo (neu’r ddau ohonynt), wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur.

(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

(4)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd o dan yr adran hon.

25Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi unrhyw gyfarwyddiadau i’r awdurdod lleol neu i unrhyw un neu rai o swyddogion yr awdurdod y maent yn credu eu bod yn briodol i sicrhau bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod â’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

26Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu cyflawni gan awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt.

(3)Os yw cyfarwyddyd wedi ei wneud o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.

27Pŵer i gyfarwyddo’r modd y mae swyddogaethau addysg eraill yn cael eu harfer

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 25 neu 26 ymwneud â chyflawni swyddogaethau addysg yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus i gyfarwyddyd ymwneud â swyddogaethau addysg nad ydynt yn swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd.

28Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, cânt—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Darpariaethau atodol

29Cyfarwyddiadau

(1)Rhaid i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Bennod hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod lleol neu swyddog i’r awdurdod.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Bennod hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.

30Dyletswydd i gydweithredu

(1)Rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi i Weinidogion Cymru, ac unrhyw berson a bennir yn is-adran (3) gymaint o gymorth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon ag y gallant yn rhesymol ei roi.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol sicrhau hefyd, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod personau sy’n gweithio yn yr ysgol yn gwneud yr un fath.

(3)Y personau penodedig yw—

(a)unrhyw berson a awdurdodir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru;

(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau o dan y Bennod hon;

(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b).

31Pwerau mynd i mewn ac arolygu

(1)Ar bob adeg resymol mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2)—

(a)hawl i fynd i mewn i fangre’r awdurdod lleol o dan sylw ac unrhyw ysgol a gynhelir ganddo;

(b)hawl i arolygu unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod neu unrhyw ysgol a gynhelir ganddo, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth ynglyn â’r awdurdod neu unrhyw ysgol o’r fath, y mae’r person yn barnu eu bod yn berthnasol i’r modd y mae swyddogaethau yn cael eu harfer gan y person o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon ac i wneud copïau o unrhyw gofnodion neu ddogfennau o’r fath.

(2)Y personau canlynol sy’n dod o fewn yr is-adran hon—

(a)y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 24 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth ar bersonau, y person y mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo gydag ef i’r contract neu’r trefniant arall sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd;

(b)y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 25;

(c)Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 26;

(d)y person a enwebir drwy gyfarwyddyd o dan adran 26.

(3)Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill, mae person (“P”)—

(a)yn meddu ar yr hawl i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael neu sydd wedi bod yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu’r dogfennau eraill sydd o dan sylw, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad, a

(b)yn cael ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol roi unrhyw gymorth y mae ar P angen rhesymol amdano (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, trefnu bod gwybodaeth ar gael i’w harolygu neu ei chopïo ar ffurf ddarllenadwy)—

(i)y person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur felly ganddo neu ar ei ran;

(ii)unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’i weithredu.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.

(5)Yn yr adran hon mae’r termau “dogfen” a “cofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.

PENNOD 3CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION

32Ystyr “awdurdod ysgol”

Yn y Bennod hon ystyr “awdurdod ysgol” yw—

(a)awdurdod lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau addysg;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(c)pennaeth ysgol a gynhelir.

33Pŵer i ddyroddi canllawiau gwella ysgolion

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod ysgol ynglyn â’r ffordd y dylai’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar wella safon yr addysg sy’n cael ei darparu gan unrhyw ysgol a gynhelir y mae’r awdurdod yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â hi (“canllawiau gwella ysgolion”).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dyroddi canllawiau gwella ysgolion i awdurdodau ysgolion yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau penodol;

(b)dyroddi canllawiau gwahanol ynghylch gwella ysgolion i wahanol awdurdodau ysgolion;

(c)diwygio neu ddirymu canllawiau gwella ysgolion drwy ganllawiau pellach;

(d)dirymu canllawiau gwella ysgolion drwy ddyroddi hysbysiad i’r awdurdodau ysgolion y mae’r canllawiau wedi eu cyfeirio atynt.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canllawiau gwella ysgolion, neu hysbysiad yn dirymu’r canllawiau hynny, yn datgan—

(a)eu bod yn cael eu dyroddi, neu ei fod yn cael ei ddyroddi, o dan yr adran hon, a

(b)y dyddiad y deuant neu y daw yn weithredol arno.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu i gyhoeddi canllawiau gwella ysgolion, neu hysbysiad yn dirymu’r canllawiau hynny.

34Ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio canllawiau gwella ysgolion, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch drafft o’r canllawiau—

(a)awdurdodau ysgolion y mae’r canllawiau yn debyg o effeithio arnynt,

(b)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac

(c)unrhyw berson arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os yw’r Cynulliad Cenedlaethol, cyn diwedd y cyfnod o 40 o ddiwrnodau, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o’r canllawiau, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â’u dyroddi ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Os na chaiff unrhyw benderfyniad ei wneud cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r canllawiau (neu’r canllawiau diwygiedig) ar ffurf y drafft.

(5)O ran y cyfnod o 40 o ddiwrnodau—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod y mae’r drafft yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw bryd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o ganllawiau arfaethedig neu ganllawiau diwygiedig arfaethedig rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

35Dyletswydd i ddilyn canllawiau gwella ysgolion

(1)Rhaid i awdurdod ysgol ddilyn y llwybr a nodir mewn canllawiau gwella ysgolion a ddyroddir iddo yn unol â’r Bennod hon pan fydd yn arfer pŵer neu ddyletswydd (gan gynnwys pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod ysgol); ond mae hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon.

(2)Nid yw awdurdod ysgol sy’n awdurdod lleol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) cyhyd—

(a)â bod yr awdurdod yn meddwl bod rheswm da iddo beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau achos penodol neu beidio â’u dilyn o gwbl,

(b)â’i fod yn penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phwnc y canllawiau, ac

(c)â bod effaith i ddatganiad polisi a ddyroddir gan yr awdurdod yn unol ag adran 36.

(3)Nid yw awdurdod ysgol sy’n gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu’n bennaeth arni yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) cyhyd â bod—

(a)y corff llywodraethu’n meddwl bod rheswm da iddo ef neu’r pennaeth beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau achos penodol neu beidio â’u dilyn o gwbl,

(b)y corff llywodraethu’n penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau neu rai’r pennaeth mewn cysylltiad â phwnc y canllawiau, ac

(c)effaith i ddatganiad polisi a ddyroddir gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 36.

(4)Pan fo is-adran (2) neu (3) yn gymwys yn achos awdurdod ysgol—

(a)rhaid i’r awdurdod ddilyn y llwybr a nodir yn y datganiad polisi, a

(b)dim ond i’r graddau nad yw pwnc y canllawiau gwella ysgolion wedi ei ddisodli gan y datganiad polisi y mae’r awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1).

(5)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (4) yn gymwys i awdurdod ysgol i’r graddau y byddai’n afresymol i’r awdurdod ddilyn y canllawiau gwella ysgolion neu’r datganiad polisi mewn achos penodol neu gategori penodol o achos.

36Datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol

(1)Rhaid i ddatganiad polisi a ddyroddir o dan adran 35(2) neu (3) nodi—

(a)sut mae’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu (yn ôl y digwydd) yn cynnig y dylai swyddogaethau gael eu harfer yn wahanol i’r llwybr a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion, a

(b)rhesymau’r awdurdod neu’r corff dros gynnig y llwybr gwahanol hwnnw.

(2)Caiff awdurdod neu gorff sydd wedi dyroddi datganiad polisi—

(a)dyroddi datganiad polisi diwygiedig;

(b)rhoi hysbysiad sy’n dirymu datganiad polisi.

(3)Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig am bolisi) ddatgan—

(a)ei fod wedi ei ddyroddi o dan adran 35(2) neu (3) (yn ôl y digwydd), a

(b)y dyddiad y mae i ddod yn weithredol arno.

(4)Rhaid i’r awdurdod neu’r corff sy’n dyroddi datganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig am bolisi), neu sy’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)(b)—

(a)trefnu bod datganiad neu hysbysiad yn cael ei gyhoeddi;

(b)anfon copi o unrhyw ddatganiad neu hysbysiad at Weinidogion Cymru.

37Cyfarwyddiadau

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn credu, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddir gan awdurdod ysgol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yn debyg o wella safon yr addysg a ddarperir yn yr ysgol y mae’r datganiad polisi yn ymwneud â hi.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod ysgol i gymryd unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer ei swyddogaethau yn unol â’r canllawiau gwella ysgolion a ddyroddir i’r awdurdod yn unol â’r Bennod hon.

(3)Rhaid i awdurdod ysgol sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gydymffurfio ag ef.

(4)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod ysgol.

(5)O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo gael ei roi’n ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.