18.Mae'r adran hon yn disodli is-baragraff 8(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 2006 gyda deg is-baragraff newydd sy'n cynnwys darpariaethau manwl yn diffinio dyletswyddau Comisiwn y Cynulliad o ran defnyddio'r Gymraeg a‘r Saesneg, gan gynnwys cymorth y Comisiwn i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 35(1)-(1C) o Ddeddf 2006 (fel y'i diwygiwyd).
19.Yn gyntaf, mae'r is-baragraff (3) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad drin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae hyn yn ailddatgan, ar ffurf newydd, y ddyletswydd yn yr is-baragraff (3) blaenorol o Atodlen 2. Fodd bynnag, yn ogystal, mae'r is-baragraff newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad wneud trefniadau ar gyfer galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 35 (fel y'i diwygiwyd).
20.Mae gweddill yr is-baragraffau newydd yn ategu'r dyletswyddau o dan is-baragraff (3) drwy ddarparu dulliau ar gyfer sicrhau cydymffurfio'n effeithiol â'r dyletswyddau hynny.
21.Y ffordd o wneud hynny yw drwy Gynllun Ieithoedd Swyddogol sy‘n nodi‘r mesurau y mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu eu cymryd er mwyn cydymffurfio â‘i ddyletswyddau o dan is-baragraff (3). Mae is-baragraffau (4), (10) ac (11) yn ymdrin â'r broses o baratoi, mabwysiadu ac adolygu'r Cynllun. Bydd angen cyhoeddi drafft o'r Cynllun a'i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac ymgynghori arno. Bydd angen i Gomisiwn y Cynulliad ystyried sylwadau a wnaed amdano gan y sawl yr ymgynghorodd â hwy a chan y Cynulliad Cenedlaethol (er enghraifft adroddiad unrhyw un o bwyllgorau'r Cynulliad a ystyriodd y Cynllun drafft). Yna, bydd angen i'r Cynllun (fel y'i diwygiwyd o ganlyniad i'r broses ymgynghori hon) gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
22.Bydd y darpariaethau hyn yn ei gwneud yn glir y bydd Comisiwn y Cynulliad yn atebol yn uniongyrchol i‘r Cynulliad Cenedlaethol (ac felly i'r cyhoedd) am ei wasanaethau dwyieithog, yn hytrach nag i Gomisiynydd y Gymraeg a Gweinidogion Cymru fel yn achos cyrff cyhoeddus y gosodir safonau arnynt o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
23.Mae is-baragraff (11) yn ei gwneud yn glir y bydd yn agored i Gomisiwn y Cynulliad fabwysiadu Cynllun a baratowyd yn unol â gofynion y Ddeddf, hyd yn oed os bydd y camau angenrheidiol wedi cael eu cymryd cyn i'r Ddeddf ddod i rym.
24.Mae is-baragraffau (5), (6) a (7) yn ymdrin â rhai (ond nid yr holl) faterion y bydd angen i'r Cynllun ymdrin â hwy. Yn is-baragraff (5), nodir yr hyn a ganlyn:
cyfieithu ar y pryd;
cyhoeddi dogfennau'n ddwyieithog;
ymgysylltu â'r cyhoedd;
mesurau i feithrin a gwella'r hawl i ddewis pa iaith swyddogol i'w defnyddio;
pennu targedau ac amserlenni ar gyfer gweithredu’r Cynllun;
dyrannu cyfrifoldebau ar gyfer gweithredu’r Cynllun;
dulliau gwrthrychol o fesur cynnydd o ran gweithredu’r Cynllun; a
strategaeth sgiliau iaith ar gyfer staff.
25.Mae is-baragraff (6) yn cynnwys gofyniad penodol i'r Cynllun gynnwys darpariaethau ynghylch cwynion o fethiant i roi effaith i ddarpariaethau'r Cynllun yn dod i law a'r broses o ymchwilio i'r cwynion hynny a’u hystyried.
26.Mae is-baragraff (7) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynllun nodi'r gwasanaethau i'w darparu yn yr ieithoedd swyddogol ac yn egluro sut y byddant yn cael eu darparu yn unol ag is-baragraff (5).
27.Mae is-baragraff (8) yn cyflwyno dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i baratoi adroddiad blynyddol ar weithredu'r Cynllun, a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae is-baragraff (9) yn nodi'r materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw.
28.Mae is-baragraff (10) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn adolygu'r Cynllun cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl pob etholiad cyffredinol cyffredin o Aelodau Cynulliad. Mae is-baragraff (11) yn nodi'r gofynion ymgynghori a amlinellir ym mharagraff 21 uchod. Yr un fydd y trefniant ar ôl pob etholiad cyffredinol anghyffredin sy'n golygu (yn sgîl adran 5(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) na chynhelir yr etholiad cyffredinol cyffredin dilynol os caiff yr etholiad anghyffredin ei gynnal llai na chwe mis cyn y dyddiad y byddai'r etholiad cyffredin wedi'i gynnal fel arall.
29.Unwaith y caiff y Cynllun ei fabwysiadu'n ffurfiol, mae is-baragraff (12) yn ei gwneud yn glir ei bod yn ddyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i'w roi ar waith.