Atgynhyrchu Cofnod y Trafodion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhif: : 15
Dyddiad: 8 Ebrill 2002
(Revised Mai 9 2005)
Gellir atgynhyrchu Trafodion y Cynulliad dan amodau ildio hawl. Hynny yw, yn ddarostyngedig i'r rhwymedigaethau a'r amodau a geir yn y canllaw hwn, y mae rhwydd hynt ichi i atgynhyrchu'r Trafodion heb angen cael caniatâd ymlaen llaw oddi wrth HMSO na'r Cynulliad Cenedlaethol.
1. Mae i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) Statws y Goron, ac felly gwarchodir Cofnod Swyddogol y Trafodion (y Cofnod) gan hawlfraint y Goron. Testun y Trafodion yw ystyr y term Deunydd yn y Nodyn Canllaw hwn.
2. Ei Mawrhydi y Frenhines yw perchennog cyntaf hawlfraint y Goron, fel y diffinnir yn adran 163 Deddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988. Penododd y Frenhines Reolwr HMSO i swydd Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines i ddal ac i weithredu hawlfraint y Goron, hawliau data-bas a hawlfreintiau eraill sy'n eiddo i'w Mawrhydi mor llawn â phetai hawlfreintiau o'r fath yn eiddo i'r Rheolwr ei hun.
Cofnod Swyddogol y Trafodion
3. Cofnod y Trafodion yw Cofnod Swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol. Adroddiad llawn ydyw, yn y person cyntaf, o'r hyn a ddywedir gan yr holl siaradwyr, a diffinnir adroddiad llawn fel un sydd 'er nad yn adroddiad union air am air, yn un gair am air o ran sylwedd; caiff geiriau a ailadroddir neu rai diangen eu dileu, a chaiff camgymeriadau amlwg eu cywiro; ond, ar y llaw arall, ni chaiff unrhyw beth sy'n ychwanegu at ystyr yr araith neu sy'n egluro'r ddadl ei hepgor.' (Gwelir y diffiniad Saesneg yn Erskine May, Parliamentary Practice, yr Ail argraffiad ar hugain, Butterworths, Llundain, 1997, t.222.)
4. Mae'r Cynulliad yn cadw dwy fersiwn electronig o'r Cofnod a gellir eu cyrchu ar wefan y Cynulliad yn www.cymru.gov.uk. Fersiwn 24 awr o'r cyfarfodydd llawn yw'r fersiwn gyntaf, ac mae honno ar gael ar wefan y Cynulliad o fewn 24 awr. Fe geir hefyd fersiwn ddwyieithog lawn sydd ar gael o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl cyfarfod llawn. Ystyrir yn gyffredinol mai hon yw'r fersiwn swyddogol. Disodlir y fersiwn hon gan fersiwn archif chwe mis ar ôl y cyfarfod llawn perthnasol.
5. Mae Cofnod y Trafodion hefyd yn cynnwys 'Cwestiynau nas Cyrhaeddwyd', 'Cwestiynau Ysgrifenedig', 'Tystiolaeth Pwyllgor' a 'Chyhoeddiadau Ysgrifenedig', ac mae'r rhain oll yn ymddangos yn adran Cofnod y Trafodion ar y wefan.
6. MMae'r Cynulliad yn annog pobl yn weithredol i gael mynediad i ddwy fersiwn y Cofnod. Mae argaeledd y Cofnod yn agwedd allweddol ar bolisi'r Cynulliad i fod yn agored a hygyrch.
Beth a olygir gan Ildio Hawl ac Amodau Ildio Hawl?
7. Mae Ildio Hawl yn golygu nad yw'r Goron yn bwriadu ymarfer ei hawl gyfreithiol i drwyddedu'n ffurfiol, cyfyngu'r defnydd a wneir o'r Cofnod na chodi tâl am atgynhyrchu Deunydd o'r Cofnod. Fodd bynnag, caiff hawlfraint y Goron ei fynnu ar ffurf Amodau Ildio Hawl i amddiffyn y Cofnod rhag cael ei ddefnyddio mewn modd camarweiniol. Cewch ragor o fanylion o dan y Rhwymedigaethau a'r Amodau a ddiffiniwyd ym mharagraffau 9 i 18.
Beth a ganiateir o dan yr Amodau Ildio Hawl?
8. Os cydymffurfir â'r Rhwymedigaethau a'r Amodau a ddiffiniwyd yn y Nodyn Canllaw hwn, nid oes cyfyngiadau ar sut y caiff Deunydd o'r Cofnod ei atgynhyrchu. Er enghraifft, caiff defnyddwyr ymgymryd â'r gweithgareddau canlynol mewn perthynas â'r Cofnod, pa un ai yn ei sylwedd neu ar ffurf detholiad:
a) atgynhyrchu a chyhoeddi Deunydd mewn unrhyw gyfrwng;
b) gwneud nifer o gopïau i'w dosbarthu a'u gwerthu;
c) atgynhyrchu Deunydd i'r diben o adrodd y newyddion;
ch) atgynhyrchu Deunydd ar wefannau di-dâl a thanysgrifiol y gellir cael mynediad iddynt drwy'r Rhyngrwyd;
d) sefydlu dolenni hyperdestun â'r Cofnod sy'n cael eu cynnal gan y Cynulliad. Am ragor o wybodaeth am y Cofnod gweler paragraffau 3 i 6;
dd) llwytho Deunydd o'r Cofnod i lawr i sgrîn ac argraffydd;
e) atgynhyrchu Deunydd ar safleoedd Mewnrwyd;
f) gwneud copïau sengl neu luosog, drwy lungopïo neu unrhyw ddull arall, at ddiben ymchwil ac astudiaeth breifat;
ff) llyfrgelloedd yn gwneud copïau sengl neu luosog (drwy lungopïo neu unrhyw ddull arall) i gyflenwi copïau ar gyfer darllenwyr, yn ddarostyngedig i angen tra gor-redol llyfrgelloedd penodol i adennill eu costau fel yr eglurir yn OS 1989 Rhif 1212 ;
g) gwneud copïau i'w dosbarthu drwy sefydliad boed yn y sector cyhoeddus neu breifat;
ng) atgynhyrchu Deunydd fel rhan o becynnau mewn seminar neu hyfforddiant;
h) atgynhyrchu Deunydd mewn traethodau ymchwil a thraethodau estynedig myfyrwyr;
i) cyfieithu i ieithoedd heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg.
Nid yw'r rhestr uchod yn ddihysbydd, ond ei diben yw dangos amrediad y ffyrdd y gellir atgynhyrchu Deunydd o'r Cofnod.
Rhwymedigaethau defnyddwyr Deunydd o'r Cofnod
9. Mae ildio hawlfraint y Goron mewn perthynas â Deunydd o'r Cofnod yn amodol ar gydymffurfio â'r telerau canlynol:
a) rhaid i'r atgynhyrchiad ddod o'r Cofnod;
b) rhaid atgynhyrchu'r Deunydd yn gywir. Mae brawddegau a ddewiswyd o areithiau Aelodau yn dderbyniol ar yr amod y gwneir yn eglur, os felly y mae, mai dim ond rhan o araith ydynt;
c) dylid cymryd gofal i sicrhau bod y Deunydd a atgynhyrchir yn dod o fersiwn ddiweddaraf y Cofnod;
ch) pan fo iaith colofn chwith y Cofnod yn Gymraeg, mae hynny'n dynodi bod aelod y Cynulliad wedi siarad yn Gymraeg. Yn y cyfryw amgylchiadau, rhaid atgynhyrchu'r testun iaith Gymraeg, gan mai dyna'r fersiwn swyddogol, a'r cyfieithiad Saesneg yn ddewisol;
d) pan fo'r Deunydd i'w gyfieithu i iaith heblaw'r Gymraeg neu'r Saesneg ac yna ei roi ar gael i'r cyhoedd, dylid ei gyfieithu'n ffyddlon gan gyfieithydd cymwys;
dd) rhaid i'r Cofnod gael ei gydnabod yn briodol fel y dynodir ym mharagraffau 10 ac 11. Ar gyfer cyfieithiadau i ieithoedd heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg, dylid cydnabod yr hawlfraint yn y Gymraeg, y Saesneg a'r iaith y cyfieithir y Deunydd iddi;
e) dylid anfon i'r Cynulliad, yn y cyfeiriad canlynol, gopi cyfarch neu danysgrifiad (gyda thrwydded gefnogol y defnyddiwr terfynol pan fo'n briodol) o bob cynnyrch a gyhoeddir yn fasnachol sy'n cynnwys y Deunydd:
Y Golygydd
Cofnod y Trafodion
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Mae'r Cynulliad a HMSO yn cadw'r hawl i dderbyn copi cyfarch o unrhyw gynhyrchion a chyhoeddiadau eraill sy'n atgynhyrchu'r Cofnod.
Amodau Cyffredinol
10. Pan gaiff fersiwn a atgynhyrchwyd o'r Cofnod ei chyhoeddi, ei chylchredeg neu ei rhyddhau i eraill - gan gynnwys deunydd i'w ddefnyddio ar y Rhyngrwyd a'r Fewnrwyd - dylid dangos, yn y Gymraeg a'r Saesneg, yr hysbysiadau canlynol am hawlfraint y Goron:
Mae Cofnod y Trafodion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ddeunydd hawlfraint y Goron. Atgynhyrchir deunydd o'r Cofnod o dan delerau canllaw polisi hawlfraint y Goron a gyhoeddir gan HMSO a'r Cynulliad Cenedlaethol
11. Dylid nodi hefyd ffynhonnell a fersiwn y Deunydd, pan fo hynny'n ymarferol, drwy roi'r cyfeirnod dogfen archif priodol ac enw'r gadwrfa lle cedwir y Cofnod. Dangosir y wybodaeth hon ar y Cofnod.
12. Mae'r holl hawliau atgynhyrchu a ganiateir dan dermau'r Nodyn Canllaw hwn yn hawliau an-ecscliwsif a gellir eu harfer drwy'r byd i gyd.
13. Rhaid peidio â defnyddio'r Trafodion yn gysylltiedig â hysbysebu na chymeradwyo cynnyrch nac mewn unrhyw gyd-destun y gellid ei ystyried fel cysylltiad diurddas.
14. Rhaid peidio â defnyddio'r Trafodion mewn unrhyw amgylchiadau y gwyddys y byddent yn enllibio neu'n athrodi unigolion, cwmnïau, sefydliadau neu bleidiau gwleidyddol neu lle bo potensial y byddent yn gwneud hynny.
15. Dim ond mewn cyd-destun y gellir atgynhyrchu Arfbais Frenhinol a logo'r Cynulliad sy'n ymddangos yn y Cofnod. Rhaid i fersiynau o'r Cofnod a atgynhyrchwyd beidio â honni iddynt gael eu cyhoeddi drwy awdurdod y Cynulliad na chael eu cyhoeddi mewn ffurf nac arddull a allai awgrymu bod gan y fersiwn a atgynhyrchwyd statws swyddogol.
16. Rhaid peidio ag atgynhyrchu'r Cofnod at ddibenion sy'n agored wleidyddol.
17. Mae'r Atodiad i'r Nodyn Canllaw hwn yn cynnwys crynodeb o'r ystod o ddefnydd a ganiateir a'r rhwymedigaethau cyfatebol, ac efallai y bydd y crynodeb hwnnw o gymorth i chi. Nid yw'r crynodeb yn disodli'r Rhwymedigaethau a'r Amodau a nodir yn y Canllaw hwn.
CAROL TULLO
Rheolwr HMSO
Argraffydd y Frenhines